Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi llongyfarch disgyblion ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ail flwyddyn y broses o ddiwygio TGAU yng Nghymru, mae'r canlyniadau hefyd yn dangos cynnydd o 50% yn y niferoedd a gofrestrwyd ar gyfer Gwyddoniaeth – sy'n sicrhau bod gan nifer uwch o lawer o bobl ifanc y sgiliau lefel uwch sydd eu hangen i lywio economi Cymru yn y dyfodol. Mae hyn yn adlewyrchu newid yn y patrymau cofrestru mewn ysgolion a chefnu ar yr arfer o gofrestru niferoedd sylweddol ar gyfer cymwysterau gwyddoniaeth galwedigaethol.
Mae nifer y disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer gwyddorau unigol (Bioleg, Cemeg a Ffiseg) wedi cynyddu 10% a'r nifer sy'n ennill A* yn y pynciau hyn hefyd wedi cynyddu. Yn ogystal, mae'r niferoedd sy'n ennill graddau A*-C yn parhau'n sefydlog gyda 9 ym mhob 10 yn llwyddo i gael y graddau hyn.
Wrth ymweld ag Ysgol Gorllewin Mynwy ym Mhont-y-pŵl, dywedodd Kirsty Williams:

“Hoffwn longyfarch y disgyblion sy'n cael eu canlyniadau heddiw a diolch i'r athrawon sydd wedi gweithio mor galed i ddarparu'r cymwysterau newydd hyn.

“Mae heddiw'n arwydd o newid mawr mewn Gwyddoniaeth yng Nghymru. Mae nifer y cofrestriadau wedi cynyddu 50%, gyda nifer uwch yn ennill graddau A*-C ac yn ennill y graddau uchaf mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Dengys hyn y pwys yr ydym ni ac ysgolion yn ei roi ar y pwnc hwn ac rwy'n hyderus y byddwn ni, gyda'n gilydd, yn mynd o nerth i nerth fel y gwelwyd yr wythnos ddiwethaf yn y canlyniadau Safon Uwch.”

Llynedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet fesurau i gymell ysgolion i beidio â chofrestru miloedd o ddysgwyr yn rhy gynnar, oni bai eu bod yn barod. Mae'r canlyniadau eleni yn dangos bod y mesurau hyn wedi gweithio, gan fod gostyngiad cyffredinol yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd cyn eu bod wedi cwblhau eu rhaglen astudio llawn - hynny yw eu cofrestru'n gynnar.
Cafodd y disgyblion hyn eu cofrestru'n gynnar naill ai yn yr haf y llynedd neu ym mis Tachwedd, ac ni wnaethant sefyll yr arholiad eto yr haf hwn. Fodd bynnag, er bod y niferoedd wedi gostwng, mae arfer o gofrestru'n gynnar wedi parhau i gael effaith sylweddol ar rai pynciau.
Mae patrymau cofrestru cynnar a gwahanol wedi cael effaith ar bynciau fel Saesneg. Fel y nodwyd yn glir gan JCQ, y darlun mwyaf cywir o gyrhaeddiad yw canlyniadau disgyblion 16 oed, waeth pryd y gwnaethant sefyll yr arholiad – boed yn yr haf y llynedd, ym mis Tachwedd neu yn yr haf eleni. Dengys hyn gyfradd lwyddo o 63.3% o ran graddau A*-C mewn Saesneg Iaith.
"Mae'r canlyniadau heddiw, wrth gwrs, ond yn un rhan o ddarlun a fydd yn cael ei roi at ei gilydd yn yr hydref," meddai Ysgrifennydd y Cabinet.

"Mae'r arfer o gofrestru disgyblion yn gynnar wedi effeithio ar rai o'r canlyniadau hyn a dyma pam y bydd y darlun terfynol yn newid. Gellir gweld hyn mewn blynyddoedd blaenorol lle'r oedd canlyniadau'r hydref sawl pwynt canran yn uwch na'r data a gyhoeddwyd yn yr haf."