Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, wedi llongyfarch myfyrwyr ledled Cymru sy'n cael eu canlyniadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru heddiw (Dydd Iau 18 Awst).

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma grynodeb o’r canlyniadau eleni:

  • Mae’r gyfradd basio gyffredinol yn parhau’n uchel yng Nghymru, ar 97.3% o A*-E
  • Enillodd 73.8% raddau A*-C
  • Enillodd 22.7% o ddysgwyr yng Nghymru y graddau uchaf posibl, sef A*-A.

  • Mewn Mathemateg, perfformiodd Cymru yn well na Lloegr unwaith eto, wrth i 43.2% ennill graddau A*-A.  
  • Gwelwyd hefyd ganlyniadau gwell o A*-C mewn pynciau fel Hanes, Celf a Dylunio a Seicoleg.
  • Mae'r canlyniadau ar gyfer Bagloriaeth Cymru (Diploma Uwch) yn dangos bod 89.8% wedi ennill Diploma Uwch yn 2016, sydd 2.5% yn fwy nag yn 2015.

Wrth ymweld â myfyrwyr yn ysgol Maesteg, dywedodd Kirsty Williams:

“Heddiw, rydyn ni’n dathlu llwyddiannau ein disgyblion. Hoffwn longyfarch pawb sy'n cael eu canlyniadau heddiw, a diolch iddyn nhw am eu holl waith caled. Dyma ddiwrnod pwysig, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth iddynt wneud penderfyniadau pwysig am eu camau nesaf mewn bywyd.

"Mae'r nifer sy'n ennill y graddau uchaf yn galonogol, a gallwn fod yn falch o berfformiad ein disgyblion mewn Mathemateg a'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran Bagloriaeth Cymru.

“Ond, nid ydym wedi cyrraedd y nod mewn rhai meysydd. Byddaf yn edrych yn fanwl ar fanylion llawn y canlyniadau hyn a’r rhai rydyn ni’n eu disgwyl yr wythnos nesaf i weld pa wersi y gallwn eu dysgu a beth y gallwn wneud yn wahanol. Mae ein perfformiad wrth ennill y graddau uchaf mewn Mathemateg yn dangos yr hyn y gall Cymru ei gyflawni.

“Byddaf yn pwyso ar i’n gwaith diwygio fynd yn ei flaen ac yn parhau i ddatblygu cymwysterau i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu system addysg sy’n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i ddisgyblion sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y byd modern.”