Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi nodi manylion model cenedlaethol newydd ar gyfer cytuno ar gyflog ac amodau gwasanaeth athrawon ysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am y maes hwn ddiwedd mis Medi, a bydd cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon ysgol yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru o fis Medi 2019 ymlaen.

Wedi cyfnod ymgynghori o 8 wythnos, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Addysg heddiw y bydd undebau athrawon, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru yn dod ynghyd mewn Fforwm Partneriaeth yn flynyddol o dan y model hwn.

Bydd y Fforwm Partneriaeth newydd hwn yn gallu cynnig newidiadau i fersiwn ddrafft o gyflogau ac amodau athrawon ac yn gallu gosod yr agenda ar gyfer unrhyw faterion eraill y bydd angen eu hystyried.

Ar ôl ystyried barn y Fforwm, cyn iddynt wneud unrhyw benderfyniad terfynol bydd Gweinidogion Cymru'n cyflwyno fersiwn ‘derfynol’ i gorff arbenigol annibynnol - Corff Adolygu Cyflogau Cymru - at ddibenion craffu arni a'i dadansoddi.

Wedi gwrando ar bryderon a restrwyd mewn ymatebion i'r ymgynghoriad, cadarnhaodd Kirsty Williams hefyd  na fydd ymgynghori â'r cyhoedd yn gam yn y broses flynyddol o gyrraedd penderfyniad. Yn hytrach, bydd ymgynghoriad ysgrifenedig yn cael ei gynnal â rhanddeiliaid allweddol yn unig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg:

"Dyma gyfle i ddatblygu model cenedlaethol yng ngwir ystyr y gair, ac un sy’n corffori dull cenedlaethol o gefnogi a chodi statws y proffesiwn addysgu yng Nghymru.

"Yr hyn rydym ei eisiau yw model sy'n dod ag undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru ynghyd i gytuno ar ffordd ymlaen sy’n deg, yn synhwyrol ac yn gynaliadwy - gan fanteisio ar gyngor oddi wrth gorff arbenigol annibynnol.

"Byddwn yn dechrau trafod glo mân y model newydd hwn nawr ac rydym yn cychwyn y trafodaethau hyn mewn ysbryd o gydweithredu."