Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi rhoi canmoliaeth i ddisgyblion a staff Ysgol Arbennig Sant Christopher yn Wrecsam ar ôl ei hymweliad heddiw (dydd Iau 16 Mawrth).

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ysgol yn un o'r prif gyfleusterau addysg arbennig yn y wlad, ac aeth yr Ysgrifennydd Addysg ar daith o gwmpas y dosbarthiadau i weld y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yno.

Mae Ysgol Sant Christopher yn ysgol arbennig a gynhelir ar gyfer disgyblion 6-19 oed sydd ag amrywiaeth o anghenion addysgol arbennig. Barnwyd bod yr ysgol yn 'Rhagorol' yn ei harolygiad ddiwethaf gan Estyn yn 2014.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cafodd yr ysgol gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor y Celfyddydau i alluogi'r disgyblion i fynychu digwyddiadau artistig nad ydynt yn gallu eu mynychu fel arfer oherwydd y costau ariannol.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb am fy nghroesawu i yma heddiw. Rwy'n gwybod bod ysgol yn le prysur iawn, ac felly rwy'n ddiolchgar i chi am roi o'ch amser i ddangos y cyfleusterau i mi.

"Mae agwedd gynhwysol Ysgol Sant Christopher at addysg i'w groesawu. ac mae'r ffordd y caiff pob dysgwr ei gefnogi i ennill y cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y cyfnod dysgu nesaf wedi creu argraff arnaf. Mae eich gwaith chi yn esiampl i eraill.

"O fewn y system addysg, rydym eisiau gwella dyheadau'r rheini y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Bydd ein Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg, os caiff ei basio, yn trawsnewid yn llwyr y system ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol."

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'n ddiweddar fod buddsoddiad gwerth £20 miliwn ar y gweill i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.