Neidio i'r prif gynnwy

Gofynnwyd i rieni pa mor aml roedden nhw’n helpu eu plentyn â’i waith darllen, ysgrifennu a rhifau a pha mor hyderus oedden nhw yn eu gallu eu hunain i’w helpu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y cartref yw’r ffactor unigol pwysicaf o ran cyrhaeddiad addysgol a thrwy greu amgylchedd sy’n rhoi gwerth ar addysg ac sy’n cefnogi addysg y plentyn, mae rhieni’n rhoi mantais sylweddol i’w plentyn mewn bywyd.

Yn rhan o’r Arolwg Cenedlaethol 2014-15 cafodd cyfres o gwestiynau ar gymorth gan rieni o ran llythrennedd a rhifedd plant eu cynnwys er mwyn rhoi rhagor o dystiolaeth i gefnogi gwaith i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial ac i bwysleisio pwysigrwydd sgiliau llythrennedd a rhifedd da.

Gofynnwyd i rieni pa mor aml roedden nhw’n helpu eu plentyn â’i waith darllen, ysgrifennu a rhifau a pha mor hyderus oedden nhw yn eu gallu eu hunain i’w helpu.

Dyma’r prif ganfyddiadau:

  • Roedd 81% o rieni â phlentyn rhwng 3 a 7 oed yn helpu eu plentyn o leiaf sawl gwaith yr wythnos â’i waith darllen ac ysgrifennu
  • Roedd 69% o rieni yn helpu eu plentyn rhwng 3 a 7 oed o leiaf sawl gwaith yr wythnos â’i waith mathemateg neu rifau
  • Roedd 76% yn hyderus iawn wrth helpu eu plentyn rhwng 3 a 11 oed â’i waith ysgrifennu Saesneg; roedd 79% yn hyderus iawn wrth helpu eu plentyn i ddarllen Saesneg
  • Roedd 60% yn hyderus iawn wrth helpu eu plentyn rhwng 3 a 11 oed â’i waith mathemateg neu rifau
  • Roedd 56% o siaradwyr Cymraeg yn hyderus iawn yn eu gallu eu hunain o ran darllen Cymraeg ac roedd 50% yn hyderus iawn yn eu gallu eu hunain i ysgrifennu Cymraeg er mwyn gallu helpu eu plentyn rhwng 3 a 11 oed â’i waith darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Kirsty Williams: 

“Bydd gallu helpu plant i ddatblygu’r sgiliau holl bwysig hynny ar gyfer y dyfodol gartref – bod yn chwilfrydig, yn hyderus ac yn barod i ddysgu – yn helpu i greu profiadau positif a chyffrous o’u diwrnod cyntaf oll.

“Mae’r dystiolaeth sydd wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i’r arolwg hwn yn awgrymu bod rhieni eisoes yn ymwneud yn frwdfrydig ac yn hyderus ag addysg eu plant. Er hynny, mae mwy i’w wneud eto er mwyn helpu ysgolion, rhieni a’r gymuned ehangach i ddeall sut i weithio gyda’i gilydd yn effeithiol i roi i’n plant y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

“Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn ffordd ddibynadwy i ni glywed gan rieni am safon yr addysg mae eu plant yn ei derbyn; rhan holl bwysig wrth ddatblygu system addysg hunanwella i ysgolion.

“Mae’r canlyniadau hefyd yn rhoi i ni dystiolaeth gadarn i ddeall anghenion rhieni a disgyblion fel ei gilydd wrth i ni ddatblygu gwaith polisi ymhellach yn y maes yma a pharhau i hyrwyddo ein hymgyrch Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref o wybod am bwysigrwydd canolog rhieni ac amgylchedd lle bydd plant yn dysgu yn y cartref hefyd.”

Ein hymgyrch ar-lein yw Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref ac mae wedi’i bwriadu i annog rhieni a gofalwyr i gymryd diddordeb yn addysg eu plentyn a’u gwneud yn ymwybodol fod y pethau bach maen nhw’n ei wneud gyda’u plentyn gartref yn eu helpu hefyd yn yr ysgol. Mae ein tudalen Facebook yn cynnig awgrymiadau defnyddiol i rieni a gofalwyr ar sut i helpu eu plentyn.