Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw roedd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yng Ngheredigion i gwrdd â staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma oedd ei hymweliad cyntaf ar daith o amgylch pob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yn ystod tymor yr hydref, i ddysgu mwy am y materion sy'n wynebu'r sector.

Wrth gael ei thywys o amgylch y campws, cyfarfu Kirsty Williams â'r Athro John Grattan, yr Is-Ganghellor Dros Dro, a hefyd Lauren Marks a swyddogion eraill o Undeb y Myfyrwyr. Yn ogystal, aeth i'r Adran Ffiseg i ddysgu am y cyfarpar sy'n cael eu datblygu ar gyfer taith ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn 2020. 

Mae'r Adran Ffiseg hefyd yn gyfrifol am Glwb Roboteg Aberystwyth - clwb ar ôl ysgol i bobl ifanc 11-18 oed - a roddodd gyflwyniad i rai o'r prosiectau sy'n cael eu harwain gan fyfyrwyr ar hyn o bryd. 

Dywedodd Kirsty Williams, 

"Rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o'm pum mis cyntaf yn y swydd hon yn clywed am y materion sy'n wynebu'r sector addysg yng Nghymru. Felly, yn naturiol roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle heddiw i fynd allan i ddysgu mwy am fywyd mewn prifysgol a phrofi wythnos y glas yn uniongyrchol.

"Yn ddiweddar, cafodd Prifysgol Aberystwyth ei dewis gan y Good University Guide fel y brifysgol yng Nghymru sy'n rhoi'r profiad gorau i fyfyrwyr. Mae'n amlwg pam, yn enwedig ar yr adeg gyffrous hon o'r flwyddyn.  

"Roeddwn yn arbennig o falch cael dysgu mwy am y gwaith y mae'r brifysgol wedi bod yn ei wneud i ehangu mynediad, drwy roi cyfle i bobl ifanc o Gymru dreulio chwe wythnos yn y brifysgol i gael profiad o'r astudio mewn amgylchedd Addysg Uwch.

"Y mis nesaf, byddwn yn lansio degfed canolfan Seren Cymru yma yn Aberystwyth. Bydd disgyblion Blwyddyn 12 o ysgolion ar draws yr ardal yn dod ynghyd i ddysgu gyda'i gilydd, a chael cymorth gwerthfawr gan arweinwyr yn y brifysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial academaidd." 

Dywedodd yr Athro John Grattan, yr Is-Ganghellor Dros Dro ym Mhrifysgol Aberystwyth, 

"Rydym yn hynod falch bod yr Ysgrifennydd dros Addysg wedi gallu ymweld â Phrifysgol Aberystwyth a gweld dros ei hun pam fod y brifysgol yn lle eithriadol i ddysgu a byw. Yn sgil canlyniad Refferendwm yr UE ac argymhellion adolygiad Diamond, roedd yn gyfle i drafod rhai o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu prifysgolion ar hyn o bryd. 

"Roedd yn gyfle hefyd i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith ymchwil a datblygu o safon sy'n cael ei gynnal gan academyddion yma yn Aberystwyth, gan gynnwys ein gwaith ar gyfer taith ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd a'n taith ryngwladol i Antarctica ym mis Ionawr 2017.

"Fel sefydliad, rydym yn rhoi pwys mawr ar ehangu mynediad i addysg uwch drwy ein rhaglen arloesol Prifysgol Haf. Roedd rhai o'r myfyrwyr a benderfynodd astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn eu profiad ar y rhaglen hon wedi gallu siarad â'r Ysgrifennydd dros Addysg ac egluro pam eu bod wedi dewis astudio am radd." 

Mae Seren yn rhwydwaith o ganolfannau rhanbarthol sy'n helpu'r disgyblion mwyaf galluog mewn dosbarthiadau chwech yng Nghymru i gael lle mewn prifysgolion blaenllaw.  Mae Ysgol Penglais ac Ysgol Penweddig yn Aberystwyth yn bartneriaid allweddol yn y ganolfan, ynghyd ag ysgolion Aberaeron, Bro Pedr, Aberteifi a Bro Teifi.