Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn llawn canmoliaeth  am y ffordd y mae arweinwyr yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn cynnwys rhieni a gofalwyr yn addysg y plant yno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan arweiniad y pennaeth, Michelle Thomas, mae'r ysgol yn ymfalchïo yn ei chyswllt agos â theuluoedd a'r gymuned ac mae'n cynnal amrywiaeth gynhwysfawr o weithgareddau dysgu ar gyfer teuluoedd ac oedolion er mwyn annog rhieni i gymryd mwy o ran yn addysg eu plant.  


Ar ôl ymweliad â'r ysgol ddydd Iau (14 Gorffennaf), pwysleisiodd Kirsty Williams bwysigrwydd ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau o ran codi cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc yng Nghymru.


"A hithau'n adeg o newid, mae darparu addysg o'r radd flaenaf i bob plentyn yn gofyn am fwy o ymdrech gennym ni i gyd. Rydyn ni i gyd - boed yn athrawon, yn fyfyrwyr, yn rhieni neu'n wleidyddion etholedig ac arweinwyr cymunedol - yn atebol am lwyddiant ein plant.

"Nid yn yr ystafell ddosbarth yn unig y mae dysgu ac addysgu'n digwydd. Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i helpu mwy o blant, mewn mwy o ffyrdd ac yn fwy effeithiol.

"Hoffwn weld rhagor o ganolfannau dysgu'n creu cyswllt â rhieni, fel y mae Michelle a'i staff yn ei wneud yma. Dwi eisiau harneisio uchelgais rhieni yn ogystal ag uchelgais eu plant."

Dywedodd y pennaeth, Michelle Thomas,

"Rydyn ni'n hapus iawn i gael croesawu'r Ysgrifennydd Addysg heddiw  ac yn falch o gael dangos rhai o'r ffyrdd rydyn ni'n ymgysylltu â'n cymuned a’i theuluoedd iddi.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n rhedeg rhaglen hyfforddi i rieni ac aelodau o'r gymuned, yn eu hyfforddi i fod yn gynorthwywyr addysgu, ac ennill NVQ neu ddiploma. Rydyn ni hefyd yn darparu crèche i alluogi rhieni i gymryd rhan. Mae hyn yn agor y ffordd iddyn nhw gael meithrin sgiliau sylfaenol a dilyn cyrsiau TGAU yn Saesneg a mathemateg.

“Ers cychwyn y prosiect hwn, rydyn ni wedi hyfforddi mwy na 150 o bobl a thrwy sicrhau bod y bobl hynny'n cael swyddi, rydyn ni wedi rhoi dros £1,500,000 yn economi Sir Benfro.”