Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wrth gyhoeddi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymraeg 2050 ac S4C adeg lansio 'Stori’r Iaith'.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Canolfan Mileniwm, Cymru, 7 Chwefror 2023

"Those who cannot remember the past are condemned to repeat it”

Dyna ddywedodd yr athronydd o fardd George Santayana.

Mae’r dyfyniad yna yn dweud wrthon ni: er mwyn sicrhau dyfodol i’n hiaith ni, mae’n rhaid dysgu gwersi o’n gorffennol. Ac o ddysgu’r gwersi hynny, tybed a oes rhaid i ni weithio’n wahanol?

Dyna pam dwi mor falch o fod yma wrth lansio rhaglen 'Stori’r Iaith' a phartneriaeth newydd gydag S4C.

Drwy edrych ar ein treftadaeth ni fel mae 'Stori’r Iaith' yn ei wneud, mae modd i ni ddeall yr heriau mae’n hiaith ni wedi eu hwynebu dros amser.

Mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod ein stori.

Ac mae stori pawb yn wahanol, yn bersonol, yn emosiynol.

Dwi’n gwybod bydd 'Stori’r Iaith' yn edrych ar ystadegau’r Gymraeg. A dwi eisiau dweud yn blaen bod penawdau diweddara’r cyfrifiad yn siomedig, ac nad dyna roeddwn i’n eisiau ei weld.

Dwi hefyd eisiau dweud mod i’n optimistaidd wrth reddf a bod mwy i’r stori honno na jest y pennawd, ac mae mwy i’n hiaith ni na jest canlyniadau’r cyfrifiad.

Felly beth mae’n rhaid i ni neud yn wahanol?

Yn un peth, mae’n rhaid i ni wrando—ond gwrando’n ddwfn ar beth mae pobl Cymru yn ei ddweud am y Gymraeg. Ac yn fwy na jyst gwrando, mae’n bwysig ein bod ni’n clywed.

Ac efallai clywed pethe fydden ni ddim yn dymuno eu clywed. Beth arall?

  • Mae angen i ni ddeall y problemau hyder mae pobl yn eu codi gyda fi.
  • Mae angen i ni ddeall beth allai helpu mwy o bobl o bob math i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg.
  • Mae angen i ni ddeall ofnau siaradwyr Cymraeg o ran defnyddio’u hiaith nhw mewn sefyllfaoedd ffurfiol neu anghyfarwydd.

A llawer mwy.

Ac ar ben hynny oll, mae angen i ni gwrdd â phobl le maen nhw, fel petai, a ddim cymryd yn ganiataol bod pawb yn teimlo fel ni, caredigion yr iaith, am y Gymraeg.

Dwi wedi dweud bod y Gymraeg yn fwy na jest rhywbeth dwi’n ei siarad, mae’n rhywbeth dwi’n ei deimlo.

Ond i rai wrth gwrs, mae’r Gymraeg jest yn rhywbeth maen nhw’n ei siarad. Neu rhywbeth gallen nhw ei siarad pe bai cyfle priodol ar gael.

Felly mae’n bwysig gwrando’n ddwfn—a chlywed. A dwi’n gobeithio bydd modd gwneud lot o hynny ar sail y Memorandwm ry’n ni’n ei gyhoeddi heno.

Dim ond sgerbwd yw’r MOU ‘na. Gosod fframwaith i weithio gyda’n gilydd mae fe.

Felly beth allai fe wneud?

Fe allai fe helpu i ni weithio gyda phobl sy wedi derbyn addysg Gymraeg ond sy ddim yn hyderus i’w defnyddio hi ar ôl gadael ysgol. Un cwestiwn sy gyda fi o ran y bobl hynny yw ai diffyg cyfle yw’r broblem neu ffurfioldeb iaith addysg, neu rywbeth arall? Beth rydych chi’n ei feddwl?

Fe allai fe helpu i ni gael lot mwy o is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar raglenni S4C drwy ddefnyddio archif S4C i hyfforddi technoleg adnabod lleferydd. Defnyddio straeon y gorffennol i helpu pobl y dyfodol i ddeall a defnyddio mwy o Gymraeg!

Fe allai fe weld lot mwy o gydweithio rhyngon ni ac eraill ar weithgareddau i bobl ifanc fwynhau yn Gymraeg. ‘Gofodau uniaith’ os hoffwch chi.

Ac fe fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i ddeall pwy allai fod yn siaradwyr Cymraeg y dyfodol, ble maen nhw’n debygol o fod, a pha mor aml y gallen nhw ddefnyddio eu Cymraeg.

A jyst nodyn bach sydyn i bwysleisio nad rôl llywodraeth yw creu na rheoli cynnwys S4C. Does dim yn yr MOU sy’n effeithio ar ryddid golygyddol S4C. Ac fel yna y dylai fe fod wrth gwrs!

Cyn cloi, dwi eisiau jyst troi fy ngolygon at un o feysydd pwysicaf yr MOU—un o feysydd pwysicaf polisi iaith mewn gwirionedd, sef trosglwyddo’r Gymraeg rhwng rhieni a’u plant. Ac mae hynny lot yn fwy na jyst annog rhieni i anfon eu plant i ysgol Gymraeg.

Ry’n ni’n gwybod yn barod bod mwyafrif (69%) y siaradwyr Cymraeg ifanc wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg yn yr ysgol. Ry’n ni’n gwybod nad yw’r holl siaradwyr Cymraeg ‘newydd’ yna o reidrwydd yn defnyddio’r Gymraeg gyda’u plant eu hunain nes ymlaen yn eu bywydau.

Ry’n ni hefyd yn gwybod bod y rhai sydd wedi caffael y Gymraeg ar yr aelwyd yn defnyddio’r iaith yn amlach na’r rhai sydd wedi ei dysgu mewn unrhyw ffordd arall.

Felly dwi’n edrych ymlaen at y cydweithio gydag S4C ym maes trosglwyddo’r Gymraeg fel bo mwy o bobl wnaeth ddim cael y Gymraeg yn eu cartrefi pan oedden nhw’n blant yn defnyddio’r Gymraeg gyda’u plant nhw yn y dyfodol.

Dyna ni, felly, cofiwn ni eiriau Santayana a ddyfynnais i’n gynharach. Gweithio gyda’n gilydd i ddysgu gwersi o’n gorffennol i helpu’n hiaith ni yn y dyfodol. Mae’r dyfodol ‘na yn dibynnu ar fwy na jyst ni ac S4C wrth reswm. Fy mhrif neges i yw ei bod hi’n bwysig i bob un ohonon ni wrando’n ddwfn ar ystod o wahanol bobl wrth iddyn nhw rannu o’u profiad nhw o’r Gymraeg. Dyna beth mae 'Stori’r Iaith' yn ei wneud a dyna beth bydda i’n ei wneud hefyd rhwng nawr a’r Eisteddfod Genedlaethol. Gyda’n gilydd ma llwyddo, ond i ni wrando, clywed, a gweithredu ar sail realiti profiad bob dydd pob math o siaradwyr Cymraeg.