Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn mewn rhaglenni newydd a fydd yn helpu sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu ac ymgorffori cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd i helpu i wella bywydau pobl, tyfu'r economi a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS) newydd gwerth £20 miliwn i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi blaengar newydd a fydd yn gwella bywydau pobl.
  • Bydd yn cefnogi sefydliadau i arloesi ac yn helpu i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, yn gwella sgiliau, yn helpu i ddatblygu gallu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a'r gallu i gefnogi twf cynaliadwy.
  • Mae gweinidogion hefyd yn lansio Cronfa’r Economi Gylchol ar gyfer Busnes gwerth £10 miliwn i'w cefnogi i symud tuag at economi garbon sero net gylchol.

Bydd Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS), sydd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, yn helpu busnesau, sefydliadau ymchwil, academia a chyrff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i arloesi, creu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, a gwella sgiliau, gan helpu i ddatblygu gallu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a’r capasiti i gefnogi twf cynaliadwy.

Bydd buddsoddiad yn targedu gweithgareddau fydd yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodir yn strategaeth arloesi newydd Llywodraeth Cymru, Cymru’n Arloesi Strategaeth arloesi i Gymru.  

Bydd y rhaglen yn helpu sefydliadau i gyrraedd "Rhagoriaeth Arloesi" trwy ddatblygu Cynlluniau a chynigion Arloesi, gan weithio ochr yn ochr â thîm o arbenigwyr sy'n darparu arbenigedd, ymgynghorwyr a chyllid.

Yn wahanol i raglenni blaenorol, nid yw Cymorth Arloesi Hyblyg SMART wedi'i gyfyngu i fusnesau a sefydliadau ymchwil – mae'n agored i unrhyw sefydliad sydd â phrosiectau cymwys sy'n helpu i gyflawni'r amcanion yn ein strategaeth arloesi, megis y trydydd sector, awdurdodau lleol, a byrddau iechyd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio rownd nesaf Cronfa Arloesedd yr Economi Gylcholheddiw hefyd.  Bydd gweinidogion yn buddsoddi £10 miliwn yn y gronfa dros y ddwy flynedd nesaf (2023/24 a 2024/25).

Yn unol â strategaeth economi gylchol Llywodraeth Cymru, Mwy nag Ailgylchu, bydd y cyllid hwn yn cefnogi buddsoddiad mewn prosesau gweithgynhyrchu i gynyddu'r defnydd o gynnwys wedi'i ailgylchu a'i ailddefnyddio mewn cynnyrch neu gydrannau, neu ymestyn oes cynhyrchion a deunyddiau. Gall busnesau wneud cais am hyd at £200,000 o gyllid i gefnogi'r gweithgaredd hwn. 

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ysgogi arloesedd i wella bywydau pobl ledled Cymru. Rydym yn gwneud hynny drwy adeiladu economi yng Nghymru yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd, gwaith teg ac ar ddatblygu diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.

"Mae'r strategaeth arloesi a lansiwyd yn gynharach eleni yn nodi sut rydym yn defnyddio arloesedd i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach trwy gefnogi sefydliadau'r sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector i ddylunio a darparu atebion i rai o'r heriau mawr sy'n wynebu ein cymdeithas.

"Bydd yr arian newydd rydyn ni'n ei lansio heddiw yn helpu mentrau arloesol yng Nghymru trwy gefnogi sefydliadau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd sy'n ein helpu i gyflawni'r weledigaeth honno - gan helpu i wella bywydau pobl, rhoi hwb i'r economi a helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Meddai y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Mae parhau i bontio i economi gylchol yn elfen hanfodol o ddatgarboneiddio. Trwy sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio cyhyd â phosibl ac osgoi gwastraff, mae nid yn unig o fudd i'r amgylchedd, ond bydd yn galluogi Cymru i fanteisio ar gyfleoedd economaidd drwy fyrhau cadwyni cyflenwi, cynyddu cystadleurwydd, a gwella effeithlonrwydd ein hadnoddau.

"Mae lansio'r cam nesaf hwn o'n Cronfa Economi Gylchol ar gyfer Busnes yn adeiladu ar y rhaglen beilot lwyddiannus tair mlynedd ac yn cyflawni ein hymrwymiad yn Cymru Sero Net i ddarparu £10 miliwn o gyllid i fusnesau i helpu i'w cefnogi i symud tuag at economi garbon sero net gylchol.

"Mae hon yn enghraifft wych o sut mae ein strategaeth Economi Gylchol, Y Tu Hwnt i Ailgylchu a’n Strategaeth Arloesi yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi arloesedd mewn meysydd megis gwella effeithlonrwydd adnoddau ac amnewid deunyddiau."

Un o’r rhai cyntaf i dderbyn y cyllid SMART FIS newydd yw Haydale, cwmni datrysiadau technoleg byd-eang o Rydaman gyda gweithrediadau yn UDA a'r Dwyrain Pell.

Bydd y gefnogaeth yn galluogi Haydale i gyflymu datblygiad eu prototeip gwresogi graphene o dan y llawr tuag at gynnyrch CE sy'n barod ar gyfer y farchnad, y gellir ei brofi mewn amgylchedd cartref.

Bydd y rhaglen gymorth hefyd yn sbarduno masnacheiddio inciau graphene biofeddygol  Haydale ar gyfer cymwysiadau synwyryddion a diagnostig, gan gyflymu'r cynnydd a wnaed hyd yma gyda Phrifysgol Caerdydd ac Ymchwil Arennau'r DU.

Meddai David Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr y DU yn Haydale:

Mae derbyn y gefnogaeth hon yn garreg filltir bwysig wrth ariannu ein harloesedd a datblygu cynnyrch yn barhaus. Rwy'n falch iawn bod ein perthynas â Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Ymchwil, Datblygu ac Arloesi er mwyn cyflawni ein cynllun arloesi a dod â'n cynnyrch graphene i'r farchnad."

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gyllid ar gael ar wefan Busnes Cymru.