Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu newydd heddiw (dydd Mawrth 29 Ionawr) gyda'r nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thlodi ymysg ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yw'r cam diweddaraf tuag at uchelgais y Llywodraeth o sicrhau bod Cymru'n genedl noddfa i bawb sy'n dewis ymgartrefu yma.

Mae'n adnewyddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, Cynghrair Ffoaduriaid Cymru a phobl sy'n ceisio lloches eu hunain i sicrhau cyfle cyfartal, gan gynnwys mynediad at adnoddau a gwasanaethau prif ffrwd. Mae hefyd yn cydnabod sgiliau a phrofiadau gwerthfawr y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches eu cyfrannu i wella cymunedau Cymru. 

Mae cymunedau Cymru eisoes wedi croesawu bron i 1,000 o ffoaduriaid o Syria fel rhan o Gynllun Adleoli Pobl Agored i Niwed o Syria Llywodraeth y DU, ynghyd â nifer o geiswyr lloches eraill o bob cwr o'r byd.

Mae'r cynllun yn tynnu sylw at amrywiol fathau o gymorth wedi’i dargedu sy’n briodol yn ddiwylliannol, gan gydnabod pwysigrwydd cynllunio a darparu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer anghenion all fod yn unigryw. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwasanaethau iechyd meddwl sy'n mynd i’r afael â phrofiadau anodd pobl sy’n ceisio lloches 
  • Ymyriadau i liniaru’r perygl o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn mynd i dlodi eithafol
  • Camau gweithredu i atal unigolion agored i niwed rhag cael eu hecsbloetio
  • Diogelu ceiswyr lloches, yn enwedig plant ar eu pen eu hunain. 
Un rhaglen allweddol yw prosiect ‘AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid’ sy'n ceisio gwella mynediad at wersi iaith, darparu cymorth i gael swydd a darparu gwybodaeth ddiwylliannol leol er mwyn helpu i integreiddio. Bydd dros 500 o ffoaduriaid yn cael asesiad o'u hanghenion ac yn cael cymorth wedi'i dargedu er mwyn eu helpu i integreiddio i'r gymdeithas.

Bydd gwefan yn cael ei lansio er mwyn darparu gwybodaeth berthnasol mewn ffordd hygyrch i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Bydd yn sicrhau bod y rhai sy'n ceisio lloches yn medru datblygu eu gwybodaeth am fywyd yng Nghymru a chael cyngor ynghylch iechyd, addysg a chyflogaeth, yn ogystal ag iaith a gwybodaeth gyffredinol am ddiwylliant a hanes Cymru.

Lansiwyd y cynllun gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt heddiw yn y Senedd. 

Dywedodd:

"Yn aml mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cyrraedd i Gymru ar ôl dioddef profiadau trawmatig iawn yn eu gwledydd eu hunain ac ar eu taith i'r Deyrnas Unedig. Mae gan Gymru hanes hir a balch o groesawu ffoaduriaid, a bydd y cynllun Cenedl Noddfa yn sicrhau bod hyn yn parhau.

"Rydyn ni am helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas yng Nghymru.

"Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rydyn ni’n bwriadu adeiladu ar y Cynllun hwn i sicrhau bod Cymru'n genedl noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches er lles pawb yn ein cymdeithas. Rydyn ni am wneud mwy na dim ond eu croesawu; rydyn ni am fanteisio ar eu sgiliau a chyfoethogi ein gwlad drwy wneud hynny."

Fe gafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig sy'n amddiffyn hawliau pobl sy'n ceisio lloches.