Neges gan y Prif Weithredwr
Wrth i ni lansio ein Cynllun Strategol ar gyfer 2026 i 2031, mae'n bwysig myfyrio ar yr hyn a gyflawnodd Cafcass Cymru dros y pum mlynedd diwethaf a sut mae hyn wedi llywio ein huchelgeisiau ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyflawnwyd ein Cynllun Strategol blaenorol yn ystod cyfnod o newid sylweddol i'r system cyfiawnder teuluol. Drwy gydol y cyfnod hwn, llywiodd ein hymrwymiad diysgog i blant a phobl ifanc bob penderfyniad a wnaethom. Gwnaethom lwyddo i gynnal gwasanaethau o ansawdd uchel drwy gydol pandemig Covid-19, addasu'n gyflym i ffyrdd newydd o weithio, a chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddiwygio systemau ar raddfa fawr. Cyflwyno'r model Braenaru (Llys sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn) ledled Cymru, cyhoeddi ein Fframwaith Ymarfer: Rhoi Plant yn Gyntaf a datblygu ein Canllawiau Ymarfer ar gyfer Cam-drin Domestig yw rhai o'r newidiadau pwysicaf a mwyaf parhaol i'n hymarfer mewn degawd — pob un wedi'i gynllunio i sicrhau bod lleisiau, diogelwch a phrofiadau bywyd plant wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau. Mae ein cyflawniadau yn ystod y cyfnod hwn wedi'u cofnodi yn Adroddiad Terfynu Cynllun Strategol 2020 i 2025.
Wrth i ni edrych ymlaen at y cam nesaf yn ein datblygiad, mae Cafcass Cymru yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros blant ac yn ymrwymedig i sicrhau eu bod wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r galw am ein gwasanaethau'n parhau i dyfu, mae achosion yn dod yn fwyfwy cymhleth, ac mae'r pwysau ar bob rhan o'r system cyfiawnder teuluol ehangach yn sylweddol o hyd. Ochr yn ochr â'r heriau hyn ceir cyfleoedd pwysig: i gryfhau cyfranogiad, gwella cysondeb a hygyrchedd, defnyddio gwybodaeth ac offer digidol yn fwy effeithiol a pharhau i helpu ein gweithlu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i blant a theuluoedd.
Mae ein Cynllun Strategol newydd yn adeiladu'n uniongyrchol ar sylfeini cryf y pum mlynedd diwethaf. Mae'n adlewyrchu'r hyn rydym wedi'i ddysgu, yr hyn y mae plant a phobl ifanc wedi'i ddweud wrthym sydd bwysicaf, a lle mae'n rhaid i ni barhau i addasu a datblygu. Mae'n rhoi ffocws clir ar ddarparu gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y plentyn; cefnogi a datblygu ein staff; a chydweithio â phartneriaid i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru.
Rwy'n falch o'r hyn a gyflawnodd ein staff yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac rwy'n hyderus bod ein Cynllun Strategol newydd yn darparu rhaglen waith glir, realistig ac uchelgeisiol ar gyfer y pum mlynedd nesaf wrth i ni barhau i roi plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnawn.
Nigel Brown - Prif Weithredwr, Cafcass Cymru
