Neidio i'r prif gynnwy

Bydd hyn yn golygu mwy o hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymdrin â sylweddau seicoweithredol newydd a gwaith gwyliadwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Byddant yn cael eu haddysgu hefyd am waith goruchwylio, i ddod i ddeall maint y broblem a dysgu mwy am yr hyn sy’n gyrru unigolion i ddefnyddio cyffuriau sy'n gwella perfformiad.    

Bydd y Cynllun Cyflawni ar Gamddefnyddio Sylweddau dair blynedd sy'n cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth 6 Medi) yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau partner eraill yn mynd i'r afael â'r effaith y mae camddefnyddio sylweddau yn ei chael. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i leihau nifer y marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol. 

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys: 

  • gwaith i leihau achosion o drosglwyddo feirysau a gludir yn y gwaed rhwng unigolion sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau 
  • gwaith cyfathrebu i sicrhau bod mwy o bobl hŷn yn deall y peryglon iechyd sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau  
  • cydweithio'n agosach rhwng gwasanaethau fel bod unigolion sy'n byw â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn cael cymorth effeithiol, wedi'i gydlynu.
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 

“Mae unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru yn cael eu niweidio'n fawr gan gamddefnyddio sylweddau. I daclo'r effaith ddinistriol hon, rhaid i weithwyr y meysydd iechyd, cyfiawnder troseddol, addysg, llywodraeth leol a sefydliadau partner weithio gyda'i gilydd.

“Ers i Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed, ein Cynllun Cyflawni ar  Gamddefnyddio Sylweddau 10 mlynedd, gael ei lansio yn 2008, rydyn ni wedi gweld gwelliannau parhaus yn yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth i unigolion sy'n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac mae’r canlyniadau eraill i'r grŵp anodd ei gyrraedd hwn hefyd wedi gwella. Mae'n hanfodol ein bod ni nawr yn cynnal y momentwm sydd wedi'i weld hyd yma.

“Rydyn ni'n buddsoddi bron £50 miliwn bob blwyddyn mewn taclo camddefnyddio sylweddau. Cafodd ymarfer ymgynghori helaeth ei gynnal gennym y llynedd i sicrhau bod ein cynllun cyflawni diweddaraf yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posibl o'r arian hwn. Rydyn ni wedi derbyn yr awgrymiadau a ddaeth yn sgil cynnal y broses honno ac mae'r camau gweithredu rydyn ni wedi'u derbyn yn cynnwys sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bawb a allai fod angen eu defnyddio.  

“Mae ein cynllun newydd hefyd yn cynnwys argymhellion yn deillio o ymholiadau y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol blaenorol i gamddefnyddio sylweddau a sylweddau seicoweithredol newydd.

“Rydyn ni am sicrhau bod gan bob un fynediad at y cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw, i leihau'r niwed sy'n cael ei achosi i unigolion, eu teuluoedd a chymunedau ar draws Cymru. Mae’r cynllun hwn yn chwarae rhan fawr yn ein hymdrech i gyflawni hyn.”