Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi lansiad grŵp newydd i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac i oruchwylio’r dull gweithredu arloesol, sef Tai yn Gyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 

“Bydd rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a hynny drwy ddefnyddio dulliau ac ymyriadau newydd a beiddgar sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Rwyf wedi bod yn hollol glir yn hyn o beth. Mae'n hanfodol bod llywodraeth yn cydweithio â phartneriaid i helpu pobl ifanc i osgoi sefyllfaoedd argyfyngus a chael llety sefydlog.

“Heddiw, rydym yn cyhoeddi y bydd grŵp gorchwyl a gorffen, o dan gadeiryddiaeth Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn arwain y ffordd yn y maes pwysig hwn. Y nod fydd manteisio i’r eithaf ar y £10m ychwanegol a gyhoeddais tua diwedd y llynedd i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl Ifanc, ac adeiladu ar hynny.

“Wrth roi help llaw i lansio'r ymgyrch hwn, dywedais na ddylai'r geiriau ‘pobl ifanc’ a ‘digartrefedd’ fod yn yr un frawddeg. Byddwn yn parhau i gydweithio ag ymgyrch End Youth Homelessness Cymru er mwyn sicrhau bod gan bob person ifanc yng Nghymru le saff i alw'n gartref.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio: 

“Drwy waith y grŵp hwn byddwn yn sicrhau bod gennym un dull gweithredu, ar draws y llywodraeth a thu hwnt, o ran atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. 

"Bydd hyn yn cynnwys meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a chyfiawnder ieuenctid. Byddwn hefyd yn cefnogi pobl ifanc sy'n ddigartref i gael gafael ar rywle saff a diogel i fyw.”

“Bydd y grŵp hefyd yn rhoi cyngor ar sut i roi'r dull gweithredu Tai yn Gyntaf ar waith ledled Cymru, gan gynnwys gwerthuso. Mae Tai yn Gyntaf yn ddull gweithredu arloesol sy'n gweithio - mae'n darparu llety i bobl ddigartref ac yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt i gynnal tenantiaeth eu hunain. Rwy'n edrych ymlaen at gael arwain y gwaith hwn.”

Dywedodd Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau, sef yr elusen arweiniol yn yr ymgyrch End Youth Homelessness Cymru:

“Rydym yn hynod falch o weld ymrwymiad pellach gan Lywodraeth Cymru i geisio rhoi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd hyn yn ychwanegu at y cynnydd sy'n wedi cael ei wneud gan End Youth Homelessness Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael cydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn atal mwy o bobl ifanc rhag bod yn ddigartref. Bydd hefyd yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth briodol cyn gynted ag y bo angen y gefnogaeth honno arnynt.”