Gall teithwyr nawr archebu tocynnau ar gyfer TaithCymru, y gwasanaeth coetsys newydd sy'n cysylltu Gogledd a De-orllewin Cymru, sy'n dechrau gweithredu ddydd Sul, 25 Hydref.
- Coetsys TaithCymru yn lansio ddydd Sul 25 Hydref
- Bydd 10 gwasanaeth dyddiol yn cysylltu Bangor a Chaerfyrddin – gydag estyniad hwyr y nos yn cysylltu Bangor â chysylltiadau rheilffordd a fferi Caergybi
- Mae'r coetsys newydd sbon yn cynnwys Wi-Fi, seddi mynd yn ôl, aerdymheru, mannau i storio beiciau a chyfleusterau toiledau
Bydd y gwasanaeth yn rhedeg bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron. Bydd yr amseroedd teithio mwy nag awr yn llai ac yn cysylltu trefi allweddol, gorsafoedd rheilffordd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar hyd y llwybr.
Bydd gwasanaethau yn cael eu darparu o oriau mân y bore tan yn hwyr gyda'r nos, gyda 10 gwasanaeth rheolaidd y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd amserlen debyg yn gweithredu ar ddydd Sul, gyda rhai gwasanaethau yn cael eu darparu ar adegau ychydig yn wahanol.
Bydd estyniad hwyr i'r gwasanaeth hefyd, gydag un daith bob dydd rhwng Bangor a gorsaf reilffordd Caergybi a Phorthladd Caergybi, gan wella cysylltiadau â gwasanaethau rheilffyrdd a fferi.
Mae modd archebu tocynnau ar-lein hyd at 15 munud cyn yr amser teithio, a bydd traciwr bws byw ar gael trwy ap Traws Cymru.
Mae'r prisiau'n gyson ac yn fforddiadwy, gyda thaith arferol o Fangor i Gaerfyrddin yn costio £10.00 i un oedolyn, tra bod y daith awr a phedwar deg pum munud o Aberystwyth i Gaerfyrddin yn costio £4.50.
Mae'r coetsys newydd sbon wedi'u dylunio i ddarparu taith gyfforddus, gyda Wi-Fi, seddi mynd yn ôl, aerdymheru a chyfleusterau toiledau. Mae'r gwasanaeth yn hygyrch, gyda modd o archebu lle ar gyfer cadair olwyn, ac mae darpariaeth ar gyfer beicwyr hefyd gyda hyn a hyn o leoedd ar gyfer beiciau y gellir eu harchebu ar-lein.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper:
Mae TaithCymru yn gam sylweddol ymlaen wrth gysylltu cymunedau ar draws Gogledd a De-orllewin Cymru. O ddydd Sul yma, bydd pobl yn gallu teithio rhwng Bangor a Chaerfyrddin yn gyflymach ac yn haws nag erioed o'r blaen, gyda choetsys cyfforddus, modern yn galw mewn trefi allweddol ar hyd y ffordd.
"Mae'r gwasanaeth newydd hwn yn rhan o'n huchelgais ehangach i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig ledled Cymru, gan gysylltu gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd, annog pobl i beidio â defnyddio eu ceir ar gyfer pob taith, a chefnogi ein nodau twristiaeth gynaliadwy a datgarboneiddio.
"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n teithio rhwng Gogledd a De-orllewin Cymru i archebu eu tocynnau nawr a rhoi cynnig ar y gwasanaeth newydd sbon hwn.
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru:
Mae TaithCymru yn ychwanegiad cyffrous newydd i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru, gan ddarparu ffordd gyflymach, fwy cyfforddus a fforddiadwy o deithio rhwng cymunedau ar draws Gogledd a De-orllewin Cymru.
"Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio o amgylch anghenion teithwyr, gyda bysiau modern, system archebu ar-lein syml a gwell cysylltiadau â gwasanaethau rheilffyrdd, a gwasanaethau bysiau a llongau fferi lleol ar hyd y llwybr.
"Drwy ei gwneud hi'n haws i bobl adael y car gartref, bydd TaithCymru yn rhoi mwy o fynediad at swyddi, addysg, gwasanaethau a chyrchfannau i ymwelwyr, gan gefnogi ein huchelgais ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth mwy cydgysylltiedig a chynaliadwy ledled Cymru.
Mae TaithCymru yn rhan o gynllun ehangach i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig ledled Cymru, gan gysylltu gwasanaethau bysiau a threnau. Bydd yn cysylltu canolfannau rhanbarthol allweddol, gan weithio ochr yn ochr â gwasanaethau presennol gan gynnwys TrawsCymru, gwasanaethau bysiau lleol a Fflecsi.
Hygyrchedd
Mae'r coetsys yn hygyrch ac mae ganddynt le i un cadair olwyn, nid yw'r toiled ar y coetsys yn hygyrch. Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan neu siaradwch ag un o'n tîm.
Pwysig: Nid yw Aberaeron yn arhosfan hygyrch ar hyn o bryd.
Mae opsiynau teithio hygyrch amgen ar gael drwy wasanaethau TrawsCymru T1 (Caerfyrddin - Aberystwyth), T5 (Aberaeron - Aberystwyth) a T2 (Aberystwyth - Bangor).
