Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae'r hybiau iechyd menywod cyntaf wedi lansio yng Nghymru yr wythnos hon, gan gynnig gwasanaethau ar gyfer y menopos, atal cenhedlu ac iechyd mislif yn nes at y cartref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Erbyn mis Mawrth, bydd hwb ym mhob bwrdd iechyd, wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion lleol. Bydd rhai yn gweithredu dros sawl safle a bydd eraill ar gael ar-lein, ond bydd pob un yn cadw at yr un ymagwedd gyfannol at iechyd menywod.

Bydd yr hybiau yn gwella mynediad at wasanaethau gofal iechyd hanfodol drwy glinigau estynedig, sesiynau addysg a chanllawiau ac adnodd cyfeirio ar-lein.

Maen nhw wedi cael eu cynllunio gyda menywod i gyd-fynd â bywydau menywod. Bydd rhai gwasanaethau yn seiliedig ar atgyfeiriad a bydd eraill ar gael ar sail mynediad agored.

Heddiw, [dydd Iau, 29 Ionawr], bydd Sarah Murphy, y Gweinidog sy'n gyfrifol am Iechyd Menywod, yn cyfarfod â menywod a chlinigwyr yn hwb peilot cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym Meddygfa Padarn, Aberystwyth.

Dywedodd y Gweinidog:

Bydd hybiau iechyd menywod yn ei gwneud hi'n haws i fenywod yng Nghymru gael gofal pan fydd ei angen arnyn nhw, gan gynnig y gofal hwnnw'n nes at y cartref.

Mae'r ddwy ddarpariaeth wahanol iawn byddaf wedi ymweld â nhw yn Abertawe ac Aberystwyth dros yr wythnos diwethaf yn adlewyrchu'r amrywiaeth eang o ffyrdd y mae byrddau iechyd yn cwrdd â'r briff o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a sicrhau nad yw symptomau menywod yn cael eu diystyru.

Wrth i'r hybiau braenaru, a'r gwasanaethau newydd sy'n gysylltiedig â nhw, gael eu lansio, byddwn yn gwrando ar adborth gan fenywod ac yn addasu i wneud yn siŵr ein bod yn adeiladu gwasanaeth iechyd sy'n diwallu anghenion menywod a merched, nawr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Mae clinig Aberystwyth yn cael ei arwain gan feddygon teulu a nyrsys, gan gynnig gwasanaethau ar gyfer y menopos, iechyd mislif ac atal cenhedlu ochr yn ochr â gwasanaethau oedd ar gael eisoes ar gyfer ffisiotherapi, y bledren a'r coluddyn dan arweiniad nyrsys. Maes o law bydd platfform amlddisgyblaethol rhithwir ar gael i fenywod sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro a fydd wedi cysylltu â hybiau’r bwrdd iechyd.

Yr wythnos diwethaf, aeth y Gweinidog i sesiwn ffisiotherapi agored i fenywod yn Abertawe ar iechyd llawr pelfis. Mae'r sesiwn yn wasanaeth newydd sy'n cael ei ddarparu yn y gymuned fel rhan o'r hwb rhithwir sy'n cael ei ddatblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Dywedodd Mr Alan Treharne, Gynaecolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyfarwyddwr Clinigol Grŵp Meddygaeth Gymunedol ac Integredig Ceredigion:

Mae'r cynllun peilot ym Meddygfa Padarn yn gweithio'n dda ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu saith hwb iechyd menywod wedi'u lleoli o amgylch ein saith clwstwr meddygon teulu ar draws ardal Hywel Dda. Mae'r hybiau hyn yn cyfuno syniadau newydd â gofal ymarferol, gan helpu menywod sy'n byw yng nghanolbarth a gorllewin Cymru i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt mor agos at adref â phosib.

Mae hwn yn gyfle gwych i ni yn Hywel Dda barhau i dreialu ffyrdd newydd o ddarparu gofal, gyda chefnogaeth Comisiwn Bevan. Fel clinigwyr sy'n datblygu'r hybiau iechyd hyn, mae’n ein galluogi ni i ddarparu gofal yn gynt, yn fwy holistaidd ac i safonau uchel.

Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ein hariannu ni i ddatblygu'r hybiau menywod. Trwyddynt gallwn gefnogi menywod gyda'u taith trwy iechyd mislif, atal cenhedlu a menopos mewn lleoliadau yn agos i lle maen nhw'n byw, gan gynnig gofal fwy hygyrch a phersonol.

Dywedodd Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol, y Rhwydwaith Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod:

Mae'r hybiau iechyd menywod newydd hyn yn cynrychioli newid ystyrlon yn y ffordd rydym yn darparu gofal ledled Cymru. Trwy ddod â gwasanaethau menopos, iechyd mislif, atal cenhedlu a iechyd pelfig ynghyd mewn un model hygyrch, cymunedol, rydym yn cael gwared ar rwystrau sydd wedi atal menywod rhag cael cymorth yn ei bryd yn rhy aml.

Yr hyn sy'n bwysicaf yw bod yr hybiau hyn wedi'u siapio gan brofiadau menywod a'u cynllunio o amgylch realiti eu bywydau. Wrth i wasanaethau ehangu ar draws pob bwrdd iechyd, mae gennym gyfle gwirioneddol i wrando, ymateb ac adeiladu system sy'n trin iechyd menywod gyda'r flaenoriaeth a'r parch y mae'n ei haeddu.

Mae'r hybiau yn rhan o Gynllun Iechyd Menywod Cymru a gyhoeddwyd y llynedd. Mae'r cynllun, sydd wedi'i greu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, sy'n rhan o Berfformiad a Gwella GIG Cymru, yn nodi sut y bydd sefydliadau'r GIG yng Nghymru yn cau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau drwy ddarparu gwasanaethau iechyd gwell i fenywod, gan sicrhau bod pobl yn gwrando arnyn nhw a bod eu hanghenion iechyd yn cael eu deall.

Mae'n cynnwys dros 60 o gamau gweithredu ar draws wyth maes blaenoriaeth i wella gofal iechyd i fenywod drwy gydol eu hoes, yn seiliedig ar adborth gan oddeutu 4,000 o fenywod ledled Cymru.

Mae pob bwrdd iechyd wedi cael £300,000 ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r hybiau braenaru iechyd menywod. Byddan nhw'n cael eu gwerthuso yn nes ymlaen eleni.