Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen newydd i helpu 6,000 o bobl oedd yn arfer camddefnyddio sylweddau neu â chyflyrau iechyd meddwl i gael gwaith wedi ei lansio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r 'Gwasanaeth Di-waith' sydd werth £7.2 miliwn, ac sydd wedi cael dros £4.8 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn helpu pobl dros 25 oed i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hwynebu wrth chwilio am waith ac i aros mewn swydd.  

Drwy gynnig gwasanaeth mentora gan gyfoedion a chyngor cyflogaeth arbenigol, mae'r gwasanaeth yn rhoi ystyriaeth i'r heriau penodol sy'n berthnasol i bobl â hanes o gamddefnyddio sylweddau neu alcohol, neu sydd â chyflyrau iechyd meddwl wrth iddynt chwilio am waith, neu ar ôl iddynt ddechrau gweithio ac wrth geisio aros yn y swydd.

Y bwriad yw ehangu'r rhaglen dros amser fel bod bron i 1,500 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn gallu manteisio ar y gwasanaeth a chael y gefnogaeth i gael addysg, hyfforddiant neu waith.

Wrth lansio'r gwasanaeth, dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

"Mae camddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl yn ddau bwnc mawr ym maes iechyd sy'n effeithio ar unigolion, ar deuluoedd ac ar gymunedau.  Mewn sawl achos, mae camddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl yn mynd law yn llaw.  Ond nid yw gwraidd y broblem yn amlwg bob tro a gall fod yn anodd mynd i'r afael â’r broblem heb y cymorth priodol.  

"Gall bod mewn gwaith helpu pobl i ddod dros sefyllfaoedd fel hyn drwy gynnig strwythur a phwrpas iddynt, ynghyd â theimlad o hunan-werth a hyder. Ond, yn anffodus, yr union sefyllfaoedd hyn sy’n rhwystr yn aml rhag cael gwaith yn y lle cyntaf.

"Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig pecyn unigryw o sesiynau mentora gan gyfoedion  a chyngor cyflogaeth arbenigol. O ganlyniad i’w profiadau eu hunain o gamddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl, mae cyfoedion yn y lle perffaith i roi cymorth, cyngor ymarferol ac anogaeth, tra bod cynghorwyr cyflogaeth yn gallu cynnig cyngor arbenigol fel sut i ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliad."

Bydd y prosiect hefyd yn cynnig cymorth pellach i'r rhai sy'n cymryd rhan ac sy'n llwyddo i gael gwaith am hyd at dri mis ar ôl iddynt ddechrau'r swydd. Bydd y gwasanaeth yn gweithio gyda chyflogwyr i'w hannog i roi cyfle i weithwyr oedd yn arfer camddefnyddio sylweddau neu ddioddef o broblemau iechyd meddwl.

Mae'r rhaglen yn adeiladu ar lwyddiant prosiect tebyg i fentora unigolion oedd yn camddefnyddio sylweddau a ddaeth i ben yn 2014 ac a oedd hefyd yn cael cymorth gan yr UE.