Neidio i'r prif gynnwy

Mae Siarter newydd wedi ei lansio i sicrhau bod meddygon a deintyddion staff a meddygon a deintyddion arbenigol cyswllt (SAS) yng Nghymru yn cael y gefnogaeth briodol yn y gweithle.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth Llywodraeth Cymru, BMA Cymru, cyflogwyr y GIG, a Deoniaeth Cymru at ei gilydd i ddatblygu’r Siarter hon sy’n disgrifio hawliau a chyfrifoldebau meddygon a deintyddion SAS a’u cyflogwyr.

Y nod yw sicrhau bod cyfraniad enfawr y meddygon a’r deintyddion hyn yn cael ei werthfawrogi, a bod y sylw priodol yn cael ei roi i’w datblygiad personol. Mae’r Siarter hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod cyflogwyr yn gweithredu mewn modd sy’n atal unrhyw fwlio, aflonyddu neu erledigaeth.

Mae meddygon SAS yn glinigwyr profiadol sy’n meddu ar gymwysterau uchel iawn, ac sy’n gweithio mewn meysydd penodol heb fod mewn swydd dan hyfforddiant.

Heddiw, ymunodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, â chynrychiolwyr o’r BMA a chyflogwyr o’r GIG ym Mharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie i lansio’r Siarter.

Dywedodd Vaughan Gething:  

“Mae oddeutu 20% o weithlu ysbytai’r GIG yng Nghymru yn feddygon SAS. Mae’r meddygon hyn yn rhoi gofal o ansawdd uchel i gleifion ledled Cymru bob dydd o’r flwyddyn.    

“Rydyn ni’n gwybod nad yw meddygon SAS yn cael eu gwerthfawrogi fel y dylen nhw, a bod yna ddiffyg cyfle iddyn nhw ddatblygu’n broffesiynol. Rydyn ni am weld y sefyllfa hon yn newid.

“Bydd y Siarter rydyn ni’n ei lansio heddiw yn sicrhau bod y bobl broffesiynol hyn yn cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen i gamu ymlaen yn eu gyrfa, heb orfod ofni bwlio nac aflonyddu.”


Dywedodd Mr Raj Nirula, aelod o Bwyllgor SAS BMA Cymru: 

“Drwy lansio Siarter SAS Cymru heddiw, rydyn ni’n cadarnhau cytundeb pellgyrhaeddol rhwng BMA Cymru, cyflogwyr y GIG, Llywodraeth Cymru a Deoniaeth Cymru ar hawliau a chyfrifoldebau meddygon a deintyddion SAS a’u cyflogwyr.

“Gan fod y siarter yn sôn yn benodol am neilltuo amser ar gyfer hyfforddiant a gweithgareddau proffesiynol eraill, bydd meddygon SAS yng Nghymru yn cael eu hannog i fodloni eu hanghenion addysgol a datblygu personol.

“Hefyd, mae’n dda gen i weld fod y siarter yn pwysleisio’r angen am ddull gweithredu nad yw’n caniatáu unrhyw fath o aflonyddu na bwlio, a’i bod felly’n gam pendant tuag at greu gweithle diogel a chefnogol i bob meddyg SAS. Heb amheuaeth bydd Siarter SAS Cymru yn helpu i sicrhau profiad mwy positif i feddygon SAS a’u cleifion.”

Dywedodd Allison Williams, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf:

 “Mae meddygon SAS yn aelodau hanfodol o’r gweithlu gofal iechyd. Mae’r Siarter hon yn gam sylweddol a phendant tuag at gydnabod ein cyfrifoldeb ni i gyd dros sicrhau bod profiad y grŵp staff hwn o weithio yn y GIG yng Nghymru yn un gadarnhaol, a’u bod yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr sy’n helpu i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal o safon.”