Neidio i'r prif gynnwy

Bydd strategaeth gyntaf erioed Cymru i fynd i'r afael â throseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad yn cael ei lansio ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Iau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad fod ar sawl ffurf megis dwyn offer amaethyddol, troseddau difrifol yn erbyn da byw a dinistrio bywyd gwyllt a'u cynefinoedd. Amcangyfrifwyd bod lladradau cefn gwlad yn unig wedi costio £1.3m yn 2021.

Bydd y strategaeth ar y cyd, rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar heddlu Cymru, yn allweddol yn y frwydr yn erbyn troseddau o'r fath.

Bydd dull cydgysylltiedig a strategol yn ganolog i lwyddiant y strategaeth sy'n cael ei lansio.

Yn 2021, penodwyd Rob Taylor yn Gydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, y rôl gyntaf o'i fath yn y DU, a bydd yn arwain ar hwyluso'r strategaeth.

Dywedodd Rob Taylor:

Gall troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt gael effaith ddinistriol, gan effeithio ar gymunedau cefn gwlad, ffermwyr, bywyd gwyllt yn ogystal â chynefinoedd a'n treftadaeth.

Bydd lansio'r strategaeth gyntaf erioed hon yng Nghymru i integreiddio troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, yn hanfodol wrth ddod â Llywodraeth Cymru, heddluoedd a phartneriaid ynghyd ochr yn ochr â'm rôl fel cydgysylltydd i fynd i'r afael â throseddau o'r fath.

Ymhlith yr amcanion yn y strategaeth mae:

  • Gweithio mewn partneriaeth i leihau troseddau a diogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt;
  • Datblygu rhwydweithiau effeithiol i rannu syniadau, arfer gorau, ac adnoddau;
  • Gwella'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi dioddefwyr sy'n profi troseddu mewn ardaloedd cefn gwlad, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed;
  • Darparu hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau mewn ystod eang o faterion sy’n gysylltiedig â throseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad, gan elwa i’r eithaf ar asiantaethau partner;
  • Gwella’r gwaith o gasglu data a rhannu gwybodaeth ymhlith partneriaid ac asiantaethau gorfodi;
  • Defnyddio technoleg ac arloesi i ddiogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt.

Mae'r strategaeth wedi'i theilwra i anghenion Cymru ac fe fydd yn cael ei chyflwyno drwy chwe grŵp blaenoriaeth – Troseddau Adar; Troseddau Fferm; Cynefinoedd; Mamaliaid a Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd; Goruchwylwyr Gwledig Heddlu Cymru; ac Iechyd Meddwl a Cham-drin Domestig.

Ychwanegodd Rob Taylor:

Mae gan y strategaeth amcanion clir gan gynnwys cefnogi iechyd meddwl yn ein cymunedau cefn gwlada mynd i'r afael â cham-drin domestig.

Byddwn yn dilyn y cynllun 4C i sicrhau llwyddiant - paratoi, atal, dilyn a diogelu. Mae hyn yn golygu paratoi ar gyfer pryd y gallai troseddau o'r fath ddigwydd, atal a rhwystro pobl rhag cyflawni’r troseddau hyn, parhau i fynd ar drywydd troseddwyr a diogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt rhag effaith troseddu.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Mae lansio'r strategaeth hon yn gam mawr ymlaen wrth fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yng Nghymru. Mae gweithio mewn partneriaeth yn thema allwedd a dim ond drwy weithio gyda'n gilydd tuag at ein nod cyffredin y gallwn lwyddo.

Mae'r strategaeth yn gosod gweledigaeth glir i Gymru sydd wedi ei theilwra i anghenion ein gwlad. Gyda'r Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt fel pwynt cyswllt canolog rwy'n hyderus y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau cefn gwlad.

Dywedodd y Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis, Heddlu Dyfed Powys:

Rwy’n edrych ymlaen at groesawu cynrychiolwyr i Lanelwedd, ac at lansio’r Strategaeth gyntaf erioed ar gyfer Cymru gyfan ynghylch Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad. Mae’r strategaeth hon yn strategaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Heddlu.

Nod y strategaeth arwyddocaol a holistaidd hon yw gwella plismona ar draws cefn gwlad Cymru a hefyd fynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae ein cymunedau gwledig yn eu hwynebu.

Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd unigolion ar draws y sector ac rwy’n edrych ymlaen at glywed am y gwaith arloesol sy’n digwydd er mwyn gwarchod ein cefn gwlad a’n bywyd gwledig.