Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghoriad ar Egwyddorion Amgylcheddol a Llywodraethu Amgylcheddol ar ôl Brexit, sy'n anelu at gynnal trefniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, wedi lansio

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a gwella safonau amgylcheddol ac i sicrhau bod gennym drefniadau llywodraethu effeithiol ar waith.

Ein prif flaenoriaeth fu cyflawni rhaglen ddeddfwriaethol helaeth i sicrhau y gall deddfwriaeth gyfredol barhau ar ôl inni adael, gan ddarparu'r un lefel o safonau amgylcheddol a diogelu.

Fodd bynnag, bydd gadael yr UE yn golygu na fydd mecanweithiau llywodraethu'r UE bellach yn berthnasol. Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos a gafodd ei lansio heddiw yn gwahodd sylwadau ynghylch sut y gallwn greu fframwaith llywodraethu effeithiol ar gyfer Cymru, gan adeiladu ar ein fframwaith deddfwriaethol cyfredol.

Yng Nghymru mae deddfwriaeth arloesol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd eisoes wedi sicrhau lle canolog i ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd o fewn prosesau gwneud penderfyniadau ar draws y llywodraeth, ac rydym wedi cyflwyno nifer o egwyddorion amgylcheddol sy'n seiliedig ar yr arferion rhyngwladol gorau.

O ganlyniad i'n dull ni, sydd wedi sicrhau ein bod ar flaen y gad nid yn unig o fewn y DU ond hefyd yn rhyngwladol, mae Cymru eisoes yn gweithredu mewn modd mwy tebyg i strwythur ar lefel yr EU, sy'n gwneud ein man cychwyn yn wahanol i weddill y DU.

Ar ôl Brexit, ni fydd cyfraith a pholisi amgylcheddol sy'n deillio o'r UE bellach yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth gan sefydliadau'r UE a Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.

Yng Nghymru, mae eisoes fframwaith unigryw ar waith mewn perthynas â datblygu cynaliadwy, lle mae'r Archwilydd Cyffredinol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn cefnogi cyrff cyhoeddus ynghylch datblygu cynaliadwy. Mae'r ymgynghoriad yn gwahodd sylwadau ar sut y gellir gwella llywodraethu amgylcheddol mewn modd sy'n cyd-fynd â'r fframwaith ehangach. Gallai hyn gynnwys gwelliannau i strwythurau sydd eisoes yn bodoli a chorff goruchwylio penodol.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cydnabod, er bod Brexit yn creu cyfle i Gymru adeiladu ar ei deddfwriaeth gyfredol, y bydd adegau pan fydd yn bwysig i bedair gweinyddiaeth y DU weithio mewn modd mwy cydweithiol ar ôl gadael yr UE. Er enghraifft, pan fydd rhwymedigaethau sy'n gyffredin i'r DU gyfan, mae'n bosibl y bydd trefniadau llywodraethu ar lefel y DU gyfan y briodol.

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 23.59 ar 9 Mehefin 2019.

Wrth lansio'r ymgynghoriad, dywedodd y Gweinidog:

“Yma yng Nghymru rydyn ni'n ffodus bod gennyn ni wlad sydd ag amgylchedd naturiol cyfoethog. Nid yn unig mae ein hadnoddau naturiol yn bwysig yn amgylcheddol, ond maen nhw hefyd yn rhan o'n hunaniaeth a’n diwylliant, ac maen nhw hefyd yn hanfodol er mwyn inni ffynnu.

"Mae trefniadau llywodraethu amgylcheddol cyfredol wedi ysgogi gwelliant nodedig yn iechyd ein hamgylchedd. Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau na fydd unrhyw ostyngiad yn y safonau amgylcheddol hyn, a byddwn yn parhau i wella’r ffordd rydyn ni’n rheoleiddio'r amgylchedd ar ôl i'r DU adael yr UE.

"Mae ein deddfwriaeth arloesol – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – yn enwog yn fyd-eang a bydd yn parhau i fod ar waith ac yn parhau i sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud. Fodd bynnag, bydd gadael yr UE yn golygu colli rhai agweddau ar lywodraethu amgylcheddol.

“Yng Nghymru, rydyn ni'n deall bod perthynas glos rhwng ein hamgylchedd a'n heconomi a'i fod yn hanfodol i'n cymdeithas. Wrth ddatblygu atebion ar gyfer Cymru, byddwn yn parhau i osgoi gwneud yr amgylchedd yn bwnc ar wahân, a chydnabod bod rhaid wrth weithredu cymdeithasol ac economaidd os ydyn ni am daclo'r heriau amgylcheddol a manteisio ar y cyfleoedd.

"Mae hyn yn fater cymhleth sy'n haeddu cael ei ystyried yn ofalus, i sicrhau ein bod yn rhoi'r trefniadau llywodraethu cywir ar waith ar gyfer y dyfodol. Hoffwn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan a rhannu eu safbwyntiau â ni."