Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru wedi'i lansio heddiw gan Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ymgynghoriad wyth wythnos yn ceisio barn y cyhoedd ar y Bil arfaethedig Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Cymru).

Er nad oes syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt yng Nghymru, maent yn ymweld yn rheolaidd, a bob tro y maent yn gwneud hynny mae'r galwadau i wahardd yr arfer yn codi eto.

Dangosodd ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol oedd yn edrych ar drwyddedu posibl ar gyfer Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid, ble yr holwyd barn hefyd ynghylch defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, bod cefnogaeth enfawr i wahardd hyn.

Bu syrcasau teithiol yn mynd o amgylch y Deyrnas Unedig am dros ddau gan mlynedd a byddant yn parhau i gael eu croesawu yng Nghymru, ond ni fydd ganddynt yr hawl i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt o dan y Bil.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

"Rydym yn credu y dylai anifeiliaid gwyllt gael eu trin gydag urddas a pharch fel bodau sydd â theimladau, ac ni ddylent gael eu trin fel  gwrthrychau neu ddull o'n difyrru.

"Bydd gwaharddiad yn anfon neges glir fod pobl Cymru yn credu bod yr arfer hwn yn syniad hen-ffasiwn ac yn foesol annerbyniol.

"Rydym am i genedlaethau'r dyfodol o blant a phobl ifanc barchu a bod yn gyfrifol gydag anifeiliaid. Hoffwn annog pawb sydd â diddordeb i roi eu barn ar ein cynnig a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

"Mae'n bwysig pwysleisio nad defnyddio anifeiliaid mewn syrcasau neu ddulliau eraill o adloniant yw'r rheswm dros y Bil, ond yn hytrach ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru."

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 26 Tachwedd 2018.