Neidio i'r prif gynnwy

Gall cael pawb yng Nghymru i fod yn egnïol arwain at amrywiaeth o fanteision - gan gynnwys gwella iechyd a lles a chymunedau mwy cysylltiedig.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ond rhaid wrth gefnogaeth pawb yng Nghymru er mwyn sicrhau llwyddiant hyn; o’r rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgarwch corfforol i eraill sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, addysg, cyfoeth naturiol a datblygiad economaidd.

  • Mwynhad yn ffactor allweddol i genedl egnïol 
  • Cronfa newydd gwerth £5m i annog a rhannu syniadau ar gyfer helpu pobl i fyw bywydau iach ac egnïol.  

Gan symud ymlaen gyda gweithredu ar y cyd, bydd Cronfa Iach ac Egnïol (CIE) newydd - partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru - yn cael ei chyhoeddi i annog a rhannu syniadau arloesol sy’n cefnogi pobl i gynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau a gwella eu lles corfforol a meddyliol.                 

Bydd buddsoddiad y cam cyntaf o £5m dros gyfnod o dair blynedd yn canolbwyntio ar wella lefelau gweithgarwch corfforol, annog datrysiadau i fanteisio ar gydweithredu, asedau cymunedol presennol fel clybiau, ysgolion a gweithleoedd, a thechnoleg newydd. Bydd manylion llawn am broses ymgeisio CIE yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.              

Hefyd, bydd Chwaraeon Cymru’n lansio’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru, gweledigaeth newydd sy’n canolbwyntio ar annog ffyrdd egnïol o fyw a chyfranogiad oes mewn chwaraeon drwy gyfrwng amrywiaeth ehangach o brofiadau pleserus a hygyrch.                                                  

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: 

“Rydw i wedi bod yn glir iawn mai un o fy mhrif flaenoriaethau fel Gweinidog yw gwella hygyrchedd ar draws pob agwedd ar fy mhortffolio. Mae hyn yn bwysicach mewn chwaraeon nag yn unrhyw faes arall, gan fod ei gwneud mor hawdd â phosib i bobl o bob cwr o Gymru fwynhau manteision gweithgarwch corfforol yn arwain at fanteision enfawr mewn sawl maes.

“Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn dyst yn ddiweddar i rai prosiectau eithriadol sy’n cael unigolion o bob cefndir i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon, rhai am y tro cyntaf. Drwy barhau i gydweithio tuag at nod cyffredin o wneud chwaraeon mor hygyrch â phleserus â phosib, rydw i’n hyderus y gallwn ni adeiladu ar y llwyddiannau hyn a gwella’r cymryd rhan ymhellach.                                                

“Bydd y gronfa newydd yma, ochr yn ochr â gweledigaeth ar ei newydd wedd ar gyfer y dyfodol, yn ceisio hwyluso hynny ac rydw i wir yn edrych ymlaen at ei gweld yn helpu i greu Cymru iachach a mwy egnïol i ni i gyd.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Ni ddylai bod yn iach ac yn egnïol deimlo fel baich na rhywbeth i fod yn nerfus yn ei gylch. Dylai fod yn rhywbeth hwyliog, sy’n agored i bawb ac yn gyfrwng i bobl, teuluoedd a chymunedau ddod at ei gilydd. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y prosiectau cyntaf a gaiff eu cefnogi gan y Gronfa’n weithredol yn gynnar yn ystod y flwyddyn nesaf, gan greu datrysiadau arloesol a gwneud cyfraniad real at iechyd a llesiant pobl ledled Cymru.”

Ar ôl sgwrs gyhoeddus ledled Cymru, roedd yr angen am brofiadau pleserus fel rhan ganolog o gael pobl i fod yn egnïol yn neges gref iawn.           

Mae sicrhau bod pobl yn cymryd rhan am oes yn thema graidd arall fel rhan o droi Cymru’n genedl fwy egnïol, gan ddylanwadu ar ddull newydd o weithredu ar y cyd gyda chwaraeon yng Nghymru.

Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Lawrence Conway:

“Roedd yn braf iawn siarad gyda chymaint o bobl ledled Cymru am eu safbwyntiau am chwaraeon, bod yn egnïol a sut maen nhw’n cael eu hysbrydoli gan lwyddiant y rhai sy’n cystadlu ar y lefelau uchaf. 

“Un neges gyson oedd bod profiad pobl o weithgarwch chwaraeon yn hanfodol bwysig – gyda hwyl a mwynhad yn agweddau canolog wrth i bobl ddewis dod yn ôl neu ddal ati i fod yn egnïol. Rhaid i’r ddarpariaeth chwaraeon fod yn ddifyr ac amrywiol, gyda’r fersiynau anffurfiol a llai cystadleuol yn bwysig i’r rhai sydd ddim yn gweld eu hunain fel unigolion da iawn mewn chwaraeon. 

“Hefyd bydd y dull o weithredu ar y cyd i gael pobl i gymryd rhan yn hanfodol ac mae’r bartneriaeth rydyn ni wedi’i datblygu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gam positif tuag at ddod â’r weledigaeth yma’n fyw.”

Dywedodd Dr Chrissie Pickin, Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Iechyd a Llesiant gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mewn llawer o’n cymunedau ni, mae gormod o bobl yn dioddef o iechyd gwael o ganlyniad i gyflyrau fel canser, clefyd y galon a phroblemau gydag esgyrn a chymalau.

“Mae bod yn segur yn ffactor risg ar gyfer yr holl gyflyrau hyn. Ein helpu ni i gynnwys gweithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd yw un o’r ffyrdd gorau i ni atal a gwella rhai o’r cyflyrau hyn, yn ogystal â’n helpu ni i deimlo’n dda.

“Mae’r Gronfa Iach ac Egnïol yn hwb i’w groesawu i helpu ein cymunedau ni i fod yn fwy egnïol, dim ots pa weithgaredd rydych chi’n ei ddewis, ble rydych chi’n byw neu faint o arian sydd gennych chi.”

Am fwy o wybodaeth am y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru ewch i: https://gweledigaethargyferchwaraeon.cymru