Neidio i'r prif gynnwy

Lawrlwytho TermCymru

Fersiwn ddiweddaraf cronfa dermau TermCymru ichi ei lawrlwytho yn ei chyfanrwydd.

O’r dudalen hon, mae modd ichi lawrlwytho cronfa dermau TermCymru at eich defnydd eich hun, o dan y drwydded OGL.

Rydym yn deall bod nifer o unigolion a sefydliadau yn defnyddio’r adnodd hwn at bob math o ddibenion, gan gynnwys ei lwytho i'w systemau cof cyfieithu eu hunain.

Dyma’r colofnau sydd yn y ffeil CSV hon: Saesneg; Cymraeg; Diffiniad Saesneg; Diffiniad Cymraeg; Cyd-destun Saesneg; Cyd-destun Cymraeg; Rhan ymadrodd; Cenedl; Rhif; Statws; Pwnc; Lluosog; Nodiadau; Dyddiad diweddaru

Mae'r set ddata hon hefyd wedi ei chyhoeddi ar wefan HuggingFace.

Anelir at ddiweddaru'r copi cyflawn o TermCymru ar y ddalen hon ac ar HuggingFace bob pedwar mis.

Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf ar 22/10/2025.