Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae data yn y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â blwyddyn galendr 2021, yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Effeithiodd y pandemig ar drefniadau arholi ac asesu, ac felly dyfarnu rhai cymwysterau, o Haf 2020 ymlaen. Mae’r ystadegau a gyflwynir yma yn ymwneud ag oedolion o oedran gweithio (18 i 64). Mae’n siŵr nad oedd llawer ohonynt yn gweithio tuag at ennill cymwysterau yn ystod y pandemig. Mae unrhyw effaith yn debygol o fod yn fwy ar gyfer grwpiau oedran iau.

Prif ganlyniadau

3 Mai 2022: Nododd y datganiad hwn yn anghywir o'r blaen mai'r cynnydd yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau a welwyd yn 2021 oedd y cynnydd cyntaf ers 2008. Mewn gwirionedd, cynyddodd y gyfran hefyd yn 2015. Mae hyn hefyd yn berthnasol i'r gostyngiad yn y gyfran sy'n meddu ar gymwysterau lefel 2 o leiaf. 

  • Dywedodd 8.1% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru, ar amcangyfrif, nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau o gymharu â 7.4% (r) yn 2020.
  • Roedd gan 80.1% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau lefel 2 o leiaf, o gymharu â 80.9% yn 2020.
  • Roedd gan 62.5% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau i drothwy lefel 3, o gymharu â 62.2% (r) yn 2020. 
  • Y gyfran oedd â chymwysterau addysg uwch neu gymwysterau lefel gyfwerth (NQF lefel 4 neu'n uwch) oedd 41.6% o'i gymharu â 41.1% (r) yn 2020.

(r) Mae’r amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2020 wedi’u diwygio yn dilyn y broses ailbwysoli hon.

Image
Siart yn dangos, rhwng 2008 a 2021, bod 8.1% o oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau o gwbl, o gymharu â 7.4% yn 2020.

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster (StatsCymru)

Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r dangosyddion lleisiant cenedlaethol (8: Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol). Gweler Deddf Llesiant Cenedlaethol Dyfodol.

Mae dwy garreg filltir genedlaethol yn gysylltiedig â’r dangosydd cenedlaethol hwn. Un ohonynt yw y ‘bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i Lefel 3 neu uwch erbyn 2050’. Roedd 62.5% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i Lefel 3 neu uwch yn 2021.

Further information on the national indicators, national milestones and the Well-being of Future Generations Act is provided towards the end of this release. Mae’r dadansoddiad sy’n ymwneud â’r ail garreg filltir genedlaethol – ‘bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu'n llai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050’ – wedi’i gynnwys yn yr adran ar ddaearyddiaeth.

Lefelau cymwysterau uchaf, yn ôl nodwedd bersonol

Rhyw ac oedran

Yn gyffredinol, amcangyfrifir nad oedd gan 8.9% o wrywod unrhyw gymwysterau yn 2021 o gymharu â 7.3% o fenywod. Mae cyfrannau uwch o wrywod nag o fenywod sydd heb unrhyw gymwysterau ym mhob grŵp oedran, ac eithrio’r grŵp 50 i 59. Mae benywod yn fwy tebygol o fod â chymwysterau ar lefel 4 neu uwch.

Mae’r cynnydd yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau o gwbl, a’r gostyngiad cyfatebol yn y gyfran sydd â chymwysterau Lefel 2 o leiaf, yn cael ei lywio i raddau helaeth gan y grŵp oedran 18-24. Gwelodd y grŵp hwn ostyngiad o 4.4 pwynt canran yn y gyfran sydd â chymwysterau Lefel 2 o leiaf o gymharu â 2020.

Yn gyffredinol, mae cyfran yr oedolion sydd â chymwysterau yn gostwng hyna’n byd yw’r oedolion dan sylw, er bod gan gyfran uwch o unigolion 25-34 gymwysterau Lefel 2 o leiaf (85.2%) o gymharu ag unigolion 18-24 oed (82.4%) yn 2021. Roedd gan 72.1% o unigolion 60 i 64 oed gymwysterau Lefel 2 o leiaf.

Mae’r isod yn dangos proffil cymwysterau ar gyfer pob oedran a phroffil cymwysterau pobl 18 i 24 a 60 i 64.

Image
Siart yn dangos nad oes gan 8.9% o wrywod na 7.3% o fenywod gymwysterau o gwbl. Mae benywod yn fwy tebygol o fod â chymwysterau Lefel 4 neu’n uwch.
Image
Siart yn dangos nad oes gan 9.3% o wrywod gymwysterau o gwbl o gymharu â 3.8% o fenywod. Mae benywod 18 i 24 oed yn fwy tebygol o fod â chymwysterau Lefel 3 neu’n uwch na gwrywod yr oed hwnnw.
Image
Siart yn dangos bod cyfran uwch o wrywod 60 i 64 oed (14.5%) sydd heb gymwysterau o gwbl na benywod yr oed hwnnw (13.1%).

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl rhyw, oedran a chymhwyster (StatsCymru)

Anabledd

Mae pobl gydag anabledd (15.3%) yn fwy tebygol o fod heb gymwysterau na phobl heb anabledd (5.7%) ac yn llai tebygol o fod a chymwysterau uwch na lefel 2.

Image
Siart yn dangos bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod heb gymwysterau o gwbl na phobl nad ydynt yn anabl, a’u bod yn llai tebygol o fod â chymwysterau sy’n uwch na Lefel 2.

Ethnigrwydd

Mae oedolion o oedran gweithio sydd o gefndiroedd ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd gwyn) yn fwy tebygol o fod â chymwysterau lefel uwch nag oedolion gwyn (gan gynnwys lleiafrifoedd gwyn) o oedran gweithio, ond maent hefyd yn fwy tebygol o beidio bod â chymwysterau o gwbl.

Image
Siart sy'n dangos bod oedolion o oedran gweithio o leiafrif ethnig yn fwy tebygol o ddal cymwysterau ar y lefel addysg uchaf na'r rhai o gefndir ethnig gwyn.

Y Gymraeg

Cofnodir lefelau cymwysterau uwch ymhlith siaradwyr Cymraeg nag ymhlith y rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg. O’r rheini nad oeddent yn siarad Cymraeg, roedd 9.9% ohonynt heb unrhyw gymwysterau o gymharu â 2.9% o’r rheini oedd yn siarad Cymraeg.

Daearyddiaeth

Mae’r gyfran o oedolion o oedran gweithio a chymwysterau ar lefel addysg uwch neu gyfatebol yn uchaf yn Sir Fynwy (56.8%), Ceredigion (54.1%) a Bro Morgannwg (52.7%). Mae’r gyfran yn isaf ym Mlaenau Gwent (28.9%).

Mae’r gyfran o oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau yn uchaf ym Merthyr Tudful (20.1%) a Blaenau Gwent (15.3%), ac yn isaf yng Ngheredigion (2.8%) a Sir Fynwy (3.0%).

Yr ail garreg filltir genedlaethol sy’n gysylltiedig â’r dangosydd cenedlaethol sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn yw y ‘bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu'n llai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050’. Ar hyn o bryd, mae canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau o gwbl yn is na 5% mewn tri awdurdod lleol – Ceredigion, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.

Darperir rhagor o wybodaeth ar y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.                                                         

Roedd lefelau cymwysterau Cymru yn is nag yn Lloegr, yr Alban a’r DU yn gyffredinol, ond yn uwch nag yn rhai o ranbarthau Lloegr. Mae cyfran yr oedolion o oedran gweithio sydd â chymwysterau Lefel 2 neu’n uwch a Lefel 3 neu’n uwch yn debyg i Ogledd Iwerddon. Yng Nghymru, mae cyfran is o oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau o gwbl, ond cyfran is hefyd o oedolion o oedran gweithio sydd â chymwysterau Lefel 4 neu’n uwch, o gymharu â Gogledd Iwerddon.

Image
Siart yn dangos bod lefelau cymwysterau yng Nghymru yn is nag yn y DU yn gyffredinol.

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl cymhwyster, gwlad yn y DU a blwyddyn (StatsCymru)

Roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd heb unrhyw gymwysterau yng Nghymru 1.8 pwynt canran yn uwch nag yn y DU yn 2021. Roedd y bwlch hwn wedi cynyddu o 1.3 (r) pwynt canran yn 2020.

(r) Mae’r amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2020 wedi’u diwygio yn dilyn y broses ailbwysoli hon.

Roedd newidiadau hefyd yn y bwlch rhwng Cymru a’r DU o ran y lefelau cymwysterau gwahanol rhwng 2020 a 2021 (y DU yn uwch na Chymru ym mhob achos). Yn 2021, cynyddodd y bwlch rhwng Cymru a’r DU 1.1 pwynt canran o ran Lefel 2 neu’n uwch (i roi ffigur o 2.6 pwynt canran), 0.2 pwynt canran o ran Lefel 3 neu’n uwch (i roi ffigur o 3.1 pwynt canran), a 0.2 pwynt canran o ran Lefel 4 neu’n uwch (i roi ffigur o 4.8 pwynt canran).

Statws cyflogaeth

Yn 2021, cofnodwyd bod 19.3% o’r rheini a oedd yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar yn ôl diffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol heb gymwysterau o gwbl. Mae hyn yn cymharu â 5.3% o’r rheini a oedd mewn gwaith (ni chyfrifwyd y rheini mewn addysg lawnamser).

Image
Mae'r siart yn dangos fod cyfran uchel (19.3%) o bobl heb gymwysterau ddim mewn cyflogaeth o’i gymharu â 5.3% mewn cyflogaeth.

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl gweithgarwch economaidd a chymhwyster (StatsCymru)

Galwedigaeth

Mae unigolion a gyflogir mewn galwedigaethau proffesiynol yn fwy tebygol o fod â chymwysterau lefel 2 o leiaf na’r rheini mewn swyddi eraill. Yn 2021, roedd gan 97.3% o unigolion mewn galwedigaethau proffesiynol gymwysterau ar y lefel hon.

Nodiadau

Y cyd-destun polisi a gweithrediadol

Mae’r Datganiad Ystadegol hwn yn dangos y ciplun blynyddol o lefelau cymwysterau’r boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru.

Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau mewn lefelau cymwysterau. Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r 46 dangosyddion lleisiant cenedlaethol (8: Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) a dwy garreg filltir genedlaethol gysylltiedig.  Gweler Deddf Llesiant Cenedlaethol Dyfodol.

Mae’r ystadegau hyn, ynghyd â’r dangosydd cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol wedi’u cynnwys yn benodol yn Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.

Y cefndir i’r Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Mae’r data a ddangosir yn y Datganiad hwn wedi’u seilio ar ganlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2021. Mae data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, arolwg o aelwydydd a gyflawnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar gael o 2004 ymlaen, a chyn hynny mae data cymaradwy ar gael o Arolwg blynyddol o Lafurlu Lleol Cymru ar gyfer 2001 i 2003.

Cyflwynir data yn y datganiad hwn ar gyfer oedolion oed gweithio 18 i 64 oed yn ôl eu hoedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Rhwng mis Ebrill 2010 a mis Tachwedd 2018 mae oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn raddol o 60 i 65. Yn unol â hyn, diwygiwyd diffiniad y gyfres ar gyfer oedran gweithio dynion a menywod o 18 i 64 oed, yn hytrach na'r diffiniad cynharach o 18 i 64 ar gyfer dynion a 18 i 59 ar gyfer menywod.

Mae amcangyfrifon ar y sail newydd hon ond ar gael o 2008 ymlaen, ac felly ni ellir cymharu'r ffigurau yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â'r ffigurau sy'n seiliedig ar y diffiniad blaenorol.

Dyma’r prif ffigurau ar sail y diffiniad blaenorol o oedran gweithio (18 i 59/64) ar gael ar gwefan StatsCymru.

Ym mis Awst 2021 aeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ati i ailgalibradu pwysoliad setiau data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o fis Ionawr 2020 ymlaen. Diweddarwyd y data ar y boblogaeth a ddefnyddiwyd i lunio amcangyfrifon am y farchnad lafur, er mwyn gallu adlewyrchu’n well newidiadau o ran mudo rhyngwladol ac effeithiau eraill yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Dylai’r newidiadau a wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol i’r pwysoliad leihau tueddiadau mewn amcangyfrifon ar lefelau cyfanredol uchel. Mae’n bosibl y caiff rhai dadansoddiadau llai eu heffeithio’n negyddol ac y gwelir newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai'r sampl sylfaenol ers dechrau’r pandemig.

Mae’r amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2020 wedi’u diwygio yn dilyn y broses ailbwysoli hon.

Diffiniadau

Ethnigrwydd

Er mwyn dadansoddi cymwysterau yn ôl ethnigrwydd, mae pobl mewn addysg amser llawn wedi cael eu heithrio. Gwnaethpwyd y newid hwn er mwyn cael gwared ar effaith myfyrwyr rhyngwladol sy’n cael addysg uwch yng Nghymru ac felly’n chwyddo’r gyfran sydd â chymwysterau Lefel 3+.

Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â nam neu gyflyrau iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae'r Arolwg Poblogaeth Flynyddol, sef ffynhonnell y data ar gyfer y datganiad hwn, yn Casglu data gan ddefnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i wneud hynny cynnal gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd ”). Nid oes modd cymharu ffigurau yn y datganiad hwn â'r rhai mewn datganiadau cyn 2015, a nododd y rhai a nododd anabledd cyfredol DDA neu anabledd sy'n cyfyngu ar waith.

Cymwysterau a ddefnyddir yn yr Arolwg o’r Llafurlu a’u lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar gyfer Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon (FfCC CLlGI)

Yn atodiad 1 mae rhestr o’r cymwysterau sy’n cael eu cynnwys yn benodol yn holiadur yr Arolwg o’r Llafurlu ac yn darparu manylion y lefel yn FfCC CLlGI maent wedi cael eu dyrannu iddi at ddibenion dadansoddiad ystadegol.

O’r blaen dangoswyd data fel cyfwerthedd NVQ. Mae gan FfCC CLlGI naw lefel; Lefel Mynediad ac wedyn Lefel 1 i Lefel 8. Yng Nghymru mae FfCC CLlGI yn rhan o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, meta fframwaith sydd hefyd yn cynnwys yr holl ddysgu Lefel Uwch yn y sector prifysgolion a Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd.

Gellir gweld mwy o wybodaeth am Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.

Nodwch fod lefelau gwahanol gan Fframwaith Credydau a Chymwysterau’r Alban.

Gwybodaeth o ansawdd

Perthnasedd

Mae defnyddwyr allweddol yr ystadegau hyn yn cynnwys:

  • gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru
  • aelodau'r Senedd ac ymchwilwyr yn y Senedd
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • adrannau eraill y llywodraeth

Cywirdeb

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol yn destun mwy o amrywioldeb na data rhanbarthol.

Mae’r amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2020 wedi’u diwygio yn dilyn y broses o ailbwysoli’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Ymateb trwy ddirprwy

Os nad yw’r ymatebydd ar gael ar adeg y cyfweliad, mae’n bosibl y caiff cwestiynau eu hateb trwy ddirprwy gan rywun arall ar yr aelwyd. O ran gwybodaeth am y cymwysterau uchaf, mae oddeutu 62 y cant o’r ymatebion yn dod o atebion yr ymatebydd ei hun. Cafwyd 26 y cant oddi wrth briod neu bartner a chafwyd 12 y cant oddi wrth ddirprwy arall.

Mae Adran 11 o Gyfrol 1 o Ganllaw Defnyddiwr yr Arolwg (Swyddfa Ystadegau Gwladol) o’r Llafurlu 2011 yn dangos canfyddiadau o astudiaeth ddilynol i roi prawf ar gywirdeb canlyniadau oddi wrth ddirprwyon.

Mae’r canlyniadau ar gyfer y math uchaf o gymhwyster sydd gan bobl yn dangos bod bron dau draean yn cyfateb gyda chyfeiliornad net sylweddol oherwydd i ddirprwyon tanddatgan cymwysterau. Fodd bynnag, roedd amrywiad eang yn safon yr ymatebion oddi wrth ddirprwyon. Mae’r amrywiad hwn yn nhermau perthynas y dirprwy â’r gwrthrych (roedd rhieni’n llawer gwell na gŵyr/gwragedd priod neu blant) a hefyd yn nhermau’r lefel a math o gymhwyster oedd gan bobl. Roedd y cofnodi’n llawer gwell i’r gwrthrychau hynny oedd â gradd (roedd 80 y cant yn cyfateb) nag i’r bobl oedd â chymwysterau is neu alwedigaethol (roedd 30 y cant yn cyfateb).

Diffyg ymateb

Cymerir y wybodaeth am gymwysterau uchaf o nifer o gwestiynau yn yr arolwg. Yn gyffredinol, roedd y cymhwyster uchaf yn anhysbys neu nid oedd modd ei ganfod ar gyfer 3 y cant o’r ymatebwyr. Mae’r ymatebwyr hyn wedi cael eu heithrio o’r dadansoddiad yn y datganiad hwn.

Dyrannu cymwysterau â lefelau anhysbys

Er y defnyddir cwestiynau eraill yn yr arolwg i ddyrannu cymwysterau i lefelau’r FfCC i’r graddau y bo’n bosibl, ar gyfer rhai categorïau mae’r ymatebwyr wedi’u dosrannu i lefelau gan ddefnyddio cyfrannau sydd wedi’u sefydlu ers blynyddoedd lawer. Mae hyn yn wir ar hyn o bryd ar gyfer cymwysterau ‘Eraill’, Prentisiaethau Crefftau, cymwysterau CSYS yr Alban a SCE Highers neu gymwysterau cyfwerth. Caiff cymwysterau ‘Eraill’ eu dosrannu ar draws lefelau FfCC Islaw Lefel 2, Lefel 2 a Lefel 3 yn ôl y gymhareb 55:35:10; caiff Prentisiaethau Crefftau eu dosrannu ar draws Lefel 2 a Lefel 3 yn ôl y gymhareb 50:50 a chaiff cymwysterau CSYS yr Alban eu dosrannu ar draws Lefel 2 a Lefel 3 yn ôl y gymhareb 33:67. Mae hwn yn gyfrifiad hirsefydlog sydd wedi’i seilio ar ddadansoddiad manwl o gymwysterau o’r Arolwg Aelwydydd Cyffredinol. Caiff SCE Highers eu dosrannu ar draws Lefel 2 a Lefel 3 yn ôl y gymhareb 37:63 ar sail data o flynyddoedd blaenorol.

Amseroldeb a phrydlondeb

Caiff y Datganiad Ystadegol hwn ei gyhoeddi'n flynyddol ym mis Ebrill ac mae'n cwmpasu'r flwyddyn flaenorol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn ei rag-gyhoeddi ac yna'i gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru. Mae'r holl ddata gwaelodol ar gyfer y datganiad hwn, ynghyd â datganiadau blynyddoedd blaenorol, ar gael ar wefan StatsCymru.

Cymaroldeb a chydlyniaeth

Mae’n bosibl y bydd y ffigurau hyn yn wahanol i’r rhai a gyhoeddir o gyhoeddiadau ystadegol gan adrannau llywodraethol eraill oherwydd mân wahaniaeth yn y ffynhonnell a/neu fethodolegau wrth ganfod lefelau cymwysterau. Hefyd mae’n bosibl bod tablau eraill wedi’u seilio ar yr holl bobl o oedran gweithio (16-64) ond bod y datganiad hwn wedi’i gyfyngu i bobl 18-64 oed (oedolion o oedran gweithio).

Mae’r Adran Addysg wedi datblygu dull gwell o gynhyrchu amcangyfrifon cymwysterau o’r Arolwg o’r Llafurlu, gan gynnwys defnyddio cofnodion gweinyddol i wella ansawdd y data cyrhaeddiad a gofnodir ar yr Arolwg o’r Llafurlu a phriodoli lefelau cymwysterau i’r rheiny sydd â chymwysterau anhysbys.  Gellir gweld manylion ar wefan archif y Gwasanaeth Data.

Mae data ar gael hefyd o’r Cyfrifiad Poblogaeth ar lefelau cymwysterau uchaf. Nododd Cyfrifiad 2011 fod un o bob pedwar o boblogaeth Cymru 16 oed a hŷn (26 y cant, 651,000) wedi dweud nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau cydnabyddedig a bod ychydig llai nag un o bob pedwar o boblogaeth Cymru 16 oed a hŷn (24 y cant, 614,000) wedi dweud bod ganddynt gymhwyster ar lefel 4 (lefel gradd) neu uwch. Mae’r gwahaniaeth rhwng y lefel cymwysterau a gofnodir trwy'r Cyfrifiad a data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn y datganiad hwn yn cael ei esbonio’n rhannol gan yr ystod oedran fwy yn nata’r Cyfrifiad. Mae hwnnw’n cynnwys pobl 16/17 oed nad ydynt o bosibl wedi gorffen eu haddysg, a’r grwpiau oedran hŷn. Ffactorau ychwanegol i’w hystyried yw bod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn gofyn cwestiynau manylach am gymwysterau na’r Cyfrifiad. Hefyd, mae’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg a weinyddir gan gyfwelwyr, ond mae’r Cyfrifiad yn cael ei gwblhau gan yr ymatebwyr. Felly gall y cyfwelydd holi’r ymatebydd gyda rhagor o gwestiynau i geisio canfod a yw wedi cofio’r manylion yn gywir. Fodd bynnag, mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn arolwg sampl lle mae’r Cyfrifiad yn gyfrif mwy cynhwysfawr. Roedd materion tebyg yn berthnasol i Gyfrifiad 2001.

Budd mwyaf data’r Cyfrifiad yw gallu dadansoddi o fewn awdurdod lleol, i lefel cymunedau, ac mewn traws-dabliadau gydag is-grwpiau bach o’r boblogaeth, nad ydynt yn bosibl trwy’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws ein hystadegau cenedlaethol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Cynhaliwyd asesiad llawn o'r ystadegau hyn ddiwethaf ar sail y Cod Ymarfer yn 2011. Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • addasu'r amserlen gyhoeddi flynyddol i ryddhau'r data llawn ym mis Ebrill
  • darparu mwy o ddata sylfaenol drwy StatsCymru
  • cyhoeddi yn unol â'r diffiniad newydd o boblogaeth oedran gweithio (18 i 64) ond parhau i ddarparu'r data ar sail yr hen ddiffiniad (18 i 59/64) drwy StatsCymru

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol sef:

  • (8) Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Yn y datganiad hwn, mae dangosydd 8 – y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau – yn cyfateb i ddwy garreg filltir:

  • bydd gan 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau ar lefel 3 neu uwch erbyn 2050
  • bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at ystadegau.addysgol16@llyw.cymru.

Atodiad 1

Cymwysterau a ddefnyddir yn yr Arolwg o’r Llafurlu a’u lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar gyfer Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon (FfCC CLlGI)

Lefelau 7-8 y FfCC (NVQ lefel 5 neu gyfwerth, gynt)

Gradd uwch

NVQ lefel 5

Diploma Lefel 8 [troednodyn 3]

Tystysgrif Lefel 8 [troednodyn 3]

Diploma Lefel 7 [troednodyn 3]

Tystysgrif Lefel 7 [troednodyn 3]

Dyfarniad Lefel 8 [troednodyn 3]

Lefelau 4-6 y FfCC (NVQ lefel 4 neu gyfwerth, gynt)

Gradd gyntaf / Gradd sylfaen

Gradd arall

NVQ lefel 4

Diploma Lefel 6 [troednodyn 3]

Tystysgrif Lefel 6 [troednodyn 3]

Dyfarniad Lefel 7 [troednodyn 3]

Diploma mewn addysg uwch

Diploma Lefel 5 [troednodyn 3]

Tystysgrif Lefel 5 [troednodyn 3]

Dyfarniad Lefel 6 [troednodyn 3]

HNC, HND, BTEC uwch ac ati

Addysgu (addysg bellach, uwchradd a chynradd, cyfnod sylfaen [troednodyn 1] a lefel heb ei nodi)

Nyrsio ac ati

Diploma uwch RSA

Cymhwyster arall addysg uwch islaw lefel gradd

Diploma Lefel 4 [troednodyn 3]

Tystysgrif Lefel 4 [troednodyn 3]

Lefel 3 y FfCC (NVQ lefel 3 neu gyfwerth, gynt)

Dyfarniad Lefel 5 [troednodyn 3]

NVQ lefel 3

Diploma Uwch/Dilyniant (14 i 19) [troednodyn 3]

Diploma Lefel 3 [troednodyn 3]

Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru [troednodyn 1]

Bagloriaeth Ryngwladol [troednodyn 1]

Bagloriaeth yr Alban [troednodyn 4]

GNVQ/GSVQ Uwch

2+ lefel A, 4+ lefel AU neu gyfwerth

Diploma uwch RSA

OND, ONC, BTEC, SCOTVEC National ac ati

Crefft Uwch City & Guilds/Rhan 1

Tystysgrif Blwyddyn 6 yr Alban /CSYS (67%)

3 neu ragor o gymwysterau SCE Higher neu gyfwerth

Cymwysterau Mynediad i Addysg Uwch [troednodyn 1]

Prentisiaethau crefftau (50%)

Cymwysterau eraill (10%)

Tystysgrif Lefel 3 [troednodyn 3]

Lefel 2 y FfCC (NVQ lefel 2 neu gyfwerth, gynt)

Dyfarniad Lefel 4 [troednodyn 3]

NVQ lefel 2

Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru [troednodyn 1]

1 lefel A, neu 2/3 lefel AU, neu gyfwerth

Prentisiaethau crefftau (50%)

GNVQ/GSVQ canolradd

Diploma RSA

Crefft City & Guilds/Rhan 2

Diploma cyntaf neu gyffredinol BTEC, SCOTVEC

Diploma Uwch (14 i 19) [troednodyn 3]

Diploma Lefel 2 [troednodyn 3]

5+ lefel O, TGAU gradd A*-C, TAU gradd 1 neu gyfwerth

Tystysgrif Blwyddyn 6 yr Alban /CSYS (33%)

1 neu 2 SCE Higher neu gyfwerth

Cymwysterau eraill (35%)

Tystysgrif Lefel 2 [troednodyn 3]

Cymwysterau Cenedlaethol yr Alban Lefel 5 [troednodyn 4]

Dyfarniad Lefel 3 [troednodyn 3]

Islaw Lefel 2 y FfCC (NVQ lefel 1 neu gyfwerth, gynt)

NVQ lefel 1

Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru [troednodyn 2]

GNVQ, GSVQ lefel sylfaen

Diploma Sylfaen (14 i 19) [troednodyn 1]

Diploma Lefel 1 [troednodyn 3]

Cymwysterau Cenedlaethol yr Alban Lefel 4 [troednodyn 4]

Hyd at 4 Lefel O, TGAU gradd A*-C, TAU gradd 1 neu gyfwerth

TGAU islaw gradd C, TAU islaw gradd 1 

Tystysgrif gyntaf neu gyffredinol BTEC, SCOTVEC

Modiwlau SCOTVEC

RSA - arall

Cymwysterau Cenedlaethol yr Alban Lefel 3 [troednodyn 4]

Cymwysterau Cenedlaethol yr Alban islaw Lefel 3 [troednodyn 4]

Sylfaen City & Guilds/rhan 1

Tystysgrif Lefel 1

Dyfarniad Lefel 2

Tystysgrif YT, YTP

Cymhwyster sgiliau allweddol [troednodyn 1]

Cymhwyster sgiliau sylfaenol [troednodyn 1]

Cymhwyster lefel mynediad [troednodyn 1]

Diploma lefel mynediad [troednodyn 3]

Tystysgrif lefel mynediad [troednodyn 3]

Dyfarniad Lefel 1 [troednodyn 3]

Dyfarniad lefel mynediad

Cymwysterau eraill (55%)

Mae’r canrannau mewn cromfachau’n dynodi bod cymhwyster yn cael ei rannu ar draws lefelau wrth gyfrifo nifer y bobl sydd â’r cymhwyster hwnnw. Gwneir hyn ar gyfer y cymwysterau hynny lle nad yw’r Arolwg o’r Llafurlu’n casglu digon o wybodaeth i ganiatáu dadansoddiad mwy cywir o’r cymhwyster.

Troednodiadau

[1] Ychwanegwyd y cymwysterau hyn i’r rhestr a gynhwysir ar holiadur yr Arolwg o’r Llafurlu yn 2004 neu 2005. Gwellodd hyn yr amcangyfrifon ychydig bach, gan eu bod o bosibl wedi cael eu cynnwys o dan “Cymwysterau eraill” neu eu gadael allan yn llwyr gan ymatebydd ynghynt.

[2] Ychwanegwyd y cymhwyster hwn i’r rhestr a gynhwysir ar holiadur yr Arolwg o’r Llafurlu yn 2008.

[3] Ychwanegwyd y cymhwyster hwn i’r rhestr a gynhwysir ar holiadur yr Arolwg o’r Llafurlu yn 2011.

[4] Ychwanegwyd y cymhwyster hwn i’r rhestr a gynhwysir ar holiadur yr Arolwg o’r Llafurlu yn 2015.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jonathan Ackland
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 124/2022