Yn cyflwyno ystadegau allweddol ar y cymwysterau uchaf sydd gan oedolion o oedran gweithio yng Nghymru ar gyfer 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio
Mae’r holl ddata yn y cyhoeddiad hwn wedi’u tynnu o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r cwestiynau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth sy’n ymwneud â chymwysterau wedi cael eu diweddaru gan eu bod wedi’u seilio cynt ar hen fframwaith cymwysterau. Oherwydd hyn, ni ellir cymharu’r ystadegau a gyflwynir yma ar gyfer 2022 â blynyddoedd blaenorol.
