Neidio i'r prif gynnwy

Manylion am y lefelau treth gyngor band D cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

  • Treth cyngor band D i Gymru ar gyfer 2018-19 yw £1,492 ar gyfartaledd.  Mae hyn yn cynnwys £1,219 ar gyfer cynghorau sir, £239 ar gyfer awdurdodau’r heddlu a £34 ar gyfer cynghorau cymuned. Mae ffigurau band D ar gyfer awdurdodau bilio, gan gynnwys yr elfennau ar gyfer awdurdodau’r heddlu, yn amrywio o £1,252 yn Sir Benfro i £1,828 ym Mlaenau Gwent.
  • Codiadau cynghorau sir ym mand D y dreth gyngor ar gyfer 2018-19 yw £60 ar gyfartaledd, neu 5.0% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Codiadau’r awdurdodau heddlu yw £12 ar gyfartaledd, neu 5.3%. Mae’r codiadau hyn yn cyfuno i greu codiad band D o £72 ar gyfartaledd, neu 5.1%.
  • Sir Benfro sydd â’r codiad canrannol band D uchaf o 11.0%. Rhondda Cynon Taf sydd â’r codiad canrannol band D isaf o 3.8%.
  • Heddlu De Cymru sydd â’r cynnydd mwyaf ym mand D o 7.0%. Heddlu Gogledd Cymru sydd â’r  cynnydd lleiaf ym mand D o 3.6%.
  • Yn Lloegr, amcangyfrifir mai codiad cyfartalog band D yw 5.1%.
  • Ar gyfartaledd, mae’r dreth gyngor band D yng Nghymru tua 89% o’r ffigur diweddaraf o £1,672 a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr.

Adroddiadau

Lefelau’r Dreth Gyngor, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 496 KB

PDF
Saesneg yn unig
496 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.