Neidio i'r prif gynnwy

Manylion am y lefelau treth gyngor band D cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Prif bwyntiau

  • Treth cyngor band D i Gymru ar gyfer 2023-24 yw £2,024 ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynnwys £1,631 ar gyfer cynghorau sir, £348 ar gyfer awdurdodau’r heddlu a £46 ar gyfer cynghorau cymuned. Mae ffigurau Band D ar gyfer awdurdodau bilio, gan gynnwys yr heddlu a chynghorau cymunedol, yn amrywio o £1,813 yng Nghaerffili i £2,329 ym Merthyr Tudful.
  • Codiadau cynghorau sir ym mand D y dreth gyngor ar gyfer 2024-25 yw £122 ar gyfartaledd, neu 7.8% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Codiadau’r heddlu yw £23 ar gyfartaledd, neu 7.1%. Mae’r codiadau hyn yn cyfuno i greu codiad band D o £145 ar gyfartaledd, neu 7.7%.
  • Sir Benfro sydd â’r codiad canrannol band D uchaf o 11.2%. Torfaen sydd â’r codiad canrannol band D isaf o 5.4%.
  • Heddlu De Cymru sydd â’r cynnydd mwyaf ym mand D o 8.7%. Heddlu Gogledd Cymru sydd â’r cynnydd lleiaf ym mand D o 5.0%.
  • Yn Lloegr, amcangyfrifir mai codiad cyfartalog Band D yw 5.1%.
  • Ar gyfartaledd, mae’r dreth gyngor band D yng Nghymru tua 93% o’r ffigur diweddaraf o £2,171 a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr.

Adroddiadau

Lefelau’r Dreth Gyngor: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 408 KB

PDF
Saesneg yn unig
408 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.