Mae cyllid Ynni Cymru yn cefnogi 24 o brosiectau ledled Cymru i leihau allyriadau carbon a thorri costau ynni, gan ryddhau mwy o adnoddau i'w buddsoddi'n ôl yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
- Mae Renewable Power Pembrokeshire, Clwb Ynni Lleol Ardal Llanidloes ac Afanti Media o Gaerdydd ymhlith 24 o sefydliadau sy'n rhannu £8.27 miliwn o gyllid Ynni Cymru
- Bydd y cyllid yn helpu sefydliadau i gynhyrchu a defnyddio mwy o'u hynni glân eu hunain, gan leihau costau a thorri allyriadau carbon
- Bydd y prosiectau'n helpu i ostwng biliau ynni, cefnogi busnesau lleol a darparu pŵer glanach ar gyfer gwyliau a digwyddiadau ledled Cymru
Mae'r prosiectau'n ymestyn i bob cwr o Gymru, gan gefnogi elusennau, sefydliadau cymunedol, ysgolion a cholegau, gwasanaethau iechyd, busnesau a mentrau ynni lleol.
Yn Sir Benfro, mae Renewable Power Pembrokeshire yn gweithio i sicrhau bod manteision ynni adnewyddadwy yn aros yn lleol. Bydd y prosiect yn derbyn £997,566 i gynhyrchu trydan yn lleol a chynyddu'r defnydd o ynni a gynhyrchir yn yr ardal gan fusnesau ac adeiladau cymunedol cyfagos, gan leihau eu dibyniaeth ar y grid cenedlaethol.
Drwy ei System Ynni Lleol Glyfar, disgwylir i fusnes golchi dillad lleol, Snow White, arbed rhwng £40,000 a £60,000 y flwyddyn ar filiau ynni. Gellir defnyddio'r arbedion hynny i gefnogi'r busnes, ei weithlu a'i dwf yn y dyfodol, gan helpu i gadw mwy o arian yn yr economi leol.
Ym Mhowys, mae Clwb Ynni Lleol Ardal Llanidloes, sy'n eiddo i'r gymuned, ar fin derbyn £941,280 i sicrhau bod manteision ynni lleol yn cael eu rhannu'n lleol. Bydd y buddsoddiad yn ariannu paneli solar newydd, system storio batris a mannau gwefru cerbydau trydan, gan alluogi aelwydydd sy'n rhan o'r cynllun i ddefnyddio mwy o drydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn eu cymuned eu hunain.
Drwy ddefnyddio mwy o ynni lleol a lleihau'r ddibyniaeth ar drydan o'r grid cenedlaethol, disgwylir i'r cartrefi sy'n cymryd rhan arbed tua £368 y flwyddyn ar eu biliau ynni. Rhagwelir hefyd y bydd y prosiect yn cynhyrchu tua £14,000 y flwyddyn ar gyfer prosiectau a gweithgareddau cymunedol, gan sicrhau bod manteision ynni adnewyddadwy yn cael eu rhannu ar draws yr ardal.
Yn y brifddinas, mae Afanti Media o Gaerdydd ar fin derbyn £668,558 i helpu i roi ynni glanach wrth galon gwyliau, digwyddiadau diwylliannol a darllediadau ledled Cymru. Mae'r cwmni eisoes wedi defnyddio ei dechnoleg batris mewn digwyddiadau gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, Cân i Gymru a darllediadau Super Rygbi Cymru gan S4C.
Bydd y buddsoddiad yn helpu i ehangu'r defnydd o systemau sy'n cael eu pweru gan fatris mewn digwyddiadau ledled Cymru, gan leihau'r ddibyniaeth ar eneraduron traddodiadol, creu amgylcheddau tawelach a lleihau allyriadau.
Gobaith Afanti yw y bydd y cyllid yn gwneud ynni glân yn ddewis mwy ymarferol ar gyfer popeth o wyliau cymunedol a digwyddiadau diwylliannol Cymraeg i ddarllediadau byw mawr a digwyddiadau chwaraeon.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
Mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y gall ynni adnewyddadwy wneud gwahaniaeth ymarferol i bobl ledled Cymru, boed hynny'n helpu busnesau ac aelwydydd i leihau eu biliau ynni neu'n darparu pŵer glanach ar gyfer gwyliau a digwyddiadau.
Ac nid nhw yw'r unig rai. Mae ysgolion, gwasanaethau iechyd, canolfannau cymunedol, elusennau a busnesau lleol ledled Cymru hefyd yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a chanolbwyntio mwy o'u hadnoddau ar y bobl y maent yn eu cefnogi.
Mae Ynni Cymru yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau ynni glanach a rhatach, sy'n cael ei berchnogi a'i ddefnyddio gan bobl a chymunedau ledled Cymru.
Mae Ynni Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynhyrchu a defnyddio eu hynni glân eu hunain. Ers ei lansio yn 2023, mae'r rhaglen wedi cefnogi mwy nag 80 o brosiectau ledled Cymru.
Bydd y rownd ddiweddaraf hon o gyllid yn darparu £8.27 miliwn i 24 o sefydliadau ledled Cymru, gan olygu bod cyfanswm buddsoddiad Ynni Cymru bellach yn fwy na £31 miliwn.
