Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ddiogelu adnoddau naturiol y môr a chymunedau arfordirol rhag pysgota anghyfreithlon yn nyfroedd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Grŵp Bord Gron Ysgrifennydd y Cabinet ar Brexit sy'n gyfrifol am cyhoeddi'r adroddiad. Cafodd y grŵp ei sefydlu ar ôl y refferendwm i fod yn fforwm ymgysylltu a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a'i phrif randdeiliaid ar draws y portffolio ar gyfer cynllunio ar gyfer Brexit. 

Dros gyfnod o fisoedd, bu is-grŵp yn ystyried nifer o senarios gwahanol ar gyfer gadael yr UE i weld beth fyddai'r effeithiau posibl ar y sectorau. Yn yr adroddiad, mae pum senario wedi'u datblygu, gan gynnwys gadael o dan delerau'r WTO, Cytundeb Masnach Rydd (FTA) rhwng yr UE-DU a mynediad llawn at y farchnad sengl ynghyd â Chytundebau Masnach â thrydydd wledydd.  

Mae'r adroddiad yn crynhoi casgliadau allweddol y gwaith a gafodd ei ddatblygu ar draws yr holl sectorau gyda rhanddeiliaid.

Ymhlith y  casgliadau allweddol ar draws y senarios oedd: 

  • Bydd cyfleoedd i rai sectorau mewn rhai senarios, ond ddim ym mhob un. 
  • Mae prisiau bwyd yn cynyddu i ryw raddau ymhob senario, gyda thariffau mewnforio, tariffau heblaw am dariffau a chostau llafur uwch yn arbennig yn dylanwadu arnyn nhw. 
  • Mae'r effeithiau posibl ar bysgota yng Nghymru yn amrywio o gwymp y sector o dan dariffau'r WTO i'r un sefyllfa â heddiw os bydd y trefniadau masnachu â'r UE yn cael para fel y maen nhw. 
  • Mae pwysigrwydd buddsoddi i 'ychwanegu at werth' yn thema ym mhob senario ac ym mhob sector. 
  • Mae'r sector defaid yn wynebu heriau difrifol gan ei fod yn dibynnu ar allforion i wrthbwyso cynhyrchiant tymhorol ac i sicrhau cydbwysedd y carcas. Oherwydd y cyfyngiadau daearyddol,  ac oherwydd diffyg gweithlu mewn lladd-dai a ffatrïoedd prosesu, bydd marchnadoedd cig oen yn debygol o'i chael hi'n anodd ym mhob senario. 
  • Y sectorau llaeth a dofednod yw'r cryfaf gan eu bod yn canolbwyntio ar farchnadoedd mewnol yr UE ac yn llai dibynnol ar allforio. Bydd cig eidion yn para'n ffyniannus os bydd yna ddiwydiant godro byrlymus i gyflenwi lloi ac am y defnyddir cyfrannau mwy o'r carcas a bod llai o ddibyniaeth ar allforio. 
  • Mae sector amgylchedd Cymru yn faes all dyfu o ran eco-dwristiaeth mewn tirweddau a morweddau. Ceir yma gyfoeth o gyfalaf naturiol ond rhaid wrth fuddsoddi i ddatblygu marchnadoedd newydd ac i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar y sector. 
  • Bydd cyllido gan y Llywodraeth yn cael effaith sylweddol ar raddfa'r newid ond nid y canlyniad yn y pen draw. I lawer o'r sectorau fydd yn dioddef, nid yw cyllido'n debygol o allu atal yr effeithiau ond fe allai helpu i hwyluso newid. 
  • Heb gymorth pontio gan y Llywodraeth, yn y senarios lle bydd y newid yn fawr, gallai rhai sectorau chwalu'n gyflym gan gael effeithiau ehangach ar iechyd a lles cymunedau. 
  • Mae angen i fusnesau ffermio a physgota Cymru gynhyrchu mwy a bod yn fwy effeithiol, ac ystyried ffrydiau incwm eraill i gadw'n fyw. Bydd gofyn gwella sgiliau felly a buddsoddi mewn seilwaith. 
  • Bydd heriau a chyfleoedd Brexit yn wahanol i bob busnes amaethyddol, pysgota, coedwigaeth neu fwyd. Rhaid wrth fecanweithiau i helpu busnesau i wneud y penderfyniadau iawn. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Rwy'n croesawu'r adroddiad ar senarios gadael yr UE a hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu gwaith caled. Mae fy Ngrŵp Bord Gron ar Brexit yn fforwm allweddol lle rydyn yn trafod ac yn cydweithio â phrif randdeiliaid fy mhortffolio i'n helpu i fynd i'r afael â Brexit yng Nghymru mewn ffordd gytûn. 

"Mae gadael yr UE yn golygu llawer iawn o ansicrwydd ac mae'n cynnig heriau a chyfleoedd i bob sector gan gynnwys bwyd, pysgodfeydd, ffermio, coedwigaeth a'r amgylchedd. Ond wedi dweud hynny, mae hi'n aruthrol o anodd rhagweld effeithiau Brexit. 

"Mae'r Grŵp felly wedi ystyried nifer o senarios i bwyso a mesur yr effeithiau uniongyrchol ar sectorau allweddol a rhwng y sectorau er mwyn inni allu ystyried hefyd yr effeithiau ehangach posib ar ein cymunedau a'n hamgylchedd. 

"Er bod yr adroddiad yn ddogfen anghyfforddus i'w darllen, bydd yn ffynhonnell bwysig inni fel llywodraeth ac  i'r sectorau eu hunain, i'n helpu i gyd-baratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus y tu allan i'r UE."