Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Gymru baratoi i groesawu Is-Bennaeth Llywodraeth Tsieina Hu Chunhua i Gymru mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd y cyfyngiadau ar allforio cig o Brydain i Tsieina yn cael eu codi, sy’n golygu y gallai cig eidion o Brydain gyrraedd marchnad Tsieina cyn diwedd y flwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd hyn yn creu cyfle i sicrhau lle amlwg i'r cig eidion eiconig PGI o Gymru o fewn marchnad Tsieina. 

Ar hyn o bryd caiff dros draean o'r cig coch a gaiff ei gynhyrchu yng Nghymru ei allforio y tu allan i'r DU, i'r UE yn bennaf. Mae'r allforion hyn werth oddeutu £200 miliwn. Tsieina yw un o farchnadoedd allforio bwyd a diod mwyaf y DU ar hyn o bryd ac mae agor y farchnad ar gyfer allforio cig eidion yn creu cyfleoedd newydd a allai fod werth tua £25 miliwn y flwyddyn i sector cig coch Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.5 miliwn dros dair blynedd fel y gall Hybu Cig Cymru weithredu rhaglen a fydd yn cefnogi marchnadoedd sector cig coch Cymru yn Ewrop, a hefyd ddatblygu marchnadoedd newydd mewn gwledydd eraill. Mae Hybu Cig Cymru wedi bod yn cydweithio â phobl o bob rhan o'r DU drwy Bartneriaeth Ardystio Allforio y DU (UKECP) er mwyn ceisio codi'r cyfyngiadau hanesyddol ar allforio cig eidion a chig oen i Tsieina. 

Gwnaed y cyhoeddiad ynghylch allforio cig eidion i Tsieina fel rhan o'r Sgwrs Economaidd ac Ariannol rhwng y DU a Tsieina heddiw lle cytunwyd ar Brotocol newydd ar Gig Eidion rhwng y DU a Tsieina, gan sicrhau bod modd i allforwyr cig eidion o Brydain ymuno â’r farchnad erbyn diwedd 2019. 

Ddydd Mawrth bydd yr Is-Bennaeth a chynrychiolaeth o Is-Weinidogion yn cychwyn ar ymweliad deuddydd â Chymru. Yr Is-Bennaeth sy'n gyfrifol am amaethyddiaeth o fewn Llywodraeth Tsieina a bydd yn ymweld â fferm yng Nghymru er mwyn clywed mwy am bolisi amaethyddol Llywodraeth Cymru a swyddogaeth y diwydiant o safbwynt diogelu adnoddau naturiol Cymru.  

Dywedodd Lesley Griffiths wrth groesawu'r cyhoeddiad:  

"Mae'r sector cig coch yn eithriadol o bwysig i amaethyddiaeth yng Nghymru ac i economi'r wlad. Mae'r cyhoeddiad ynghylch codi'r cyfyngiadau o ran marchnad Tsieina yn newyddion gwych i'r sector ac mae'n tystio i lwyddiant y Rhaglen Allforio Gwell a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a weithredir gan Hybu Cig Cymru a'r ffaith ei bod yn cefnogi ymdrechion ar draws y DU i gyflawni canlyniadau. 

"Mae'r amseru hefyd yn berffaith gan ein bod yn paratoi i ymadael â'r DU. Mae'n hollbwysig ein bod yn manteisio ar bob cyfle i agor marchnadoedd tramor newydd. Mae codi'r cyfyngiadau ar allforio yn creu cyfle heb ei ail i'n cynhyrchwyr ennill lle o fewn marchnad Tsieina ar gyfer y cig eidion eiconig PGI o Gymru. 

"Rydym yn parhau'n hyderus y bydd y cyfyngiadau o ran allforio cig oen i Tsieina yn cael eu codi yn y dyfodol a byddwn yn parhau i gefnogi'r gwaith parhaus hwn yn sgil ei bwysigrwydd i economi Cymru. 

"Yfory bydd y Prif Weinidog yn croesawu'r Is-Bennaeth a hefyd gynrychiolaeth o Is-Weinidogion i Gymru ar gyfer ymweliad deuddydd. Bydd yr ymweliad hwn yn creu cyfle gwych i drafod â'r Is-Bennaeth, sy'n gyfrifol am amaethyddiaeth yn yr ail economi fwyaf yn y byd. Y nod yw trafod sut y gallwn atgyfnerthu'r cysylltiadau economaidd rhwng ein gwledydd, ac yn arbennig o ran ein diwydiant bwyd a diod."

Dywedodd Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru:

"Rydym yn croesawu'n fawr y ffaith bod y gwaharddiad ar allforio cig eidion wedi'i godi. Mae Llywodraeth Cymru a Hybu Cig Cymru wedi bod yn cydweithio â swyddogion ar draws Prydain drwy UKECP dros sawl blwyddyn er mwyn ceisio codi gwaharddiadau hanesyddol ar allforio cig coch i Tsieina.

"Mae posibiliadau di-ri o fewn y farchnad hon. Dros y blynyddoedd diwethaf mae cynnydd sylweddol wedi bod yng nghyfanswm y cig eidion a gaiff ei fewnforio gan Tsieina, o 61,000 o dunelli yn 2012 i bron i 700,000 o dunelli bum mlynedd yn ddiweddarach. Gallai sicrhau cyn lleied ag 1% o'r fasnach hon fod werth £25 miliwn y flwyddyn, ac nid yw'r ffigwr hwn yn cynnwys offal a chynhyrchion eraill pumed chwarter y gallai fod marchnad sylweddol ar eu cyfer yn Tsieina.

"Bydd codi'r cyfyngiadau ar allforio cig eidion hefyd yn sbarduno optimistiaeth ynghylch posibilrwydd allforio cig oen yn y dyfodol. Mae'r gwaith o godi'r cyfyngiadau ar gig oen a chig eidion wedi dilyn yr un broses, ac felly byddwn yn parhau i gydweithio â'n partneriaid er mwyn creu marchnadoedd newydd ar gyfer cig o Gymru."