Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i haneru gwastraff bwyd yng Nghymru erbyn 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf wrth leihau maint y bwyd yr ydym yn ei daflu’n ddiangen. Mae’r rhifau diweddaraf, a gyhoeddwyd gan WRAP, yn dangos gostyngiad o 12% mewn gwastraff bwyd yng nghartrefi Cymru rhwng 2009 a 2015. Mae gwastraff y cartref yng Nghymru bellach tua 9% yn is na gweddill y DU. 

Er mwyn adeiladu ar y cynnydd hwn, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw y bydd yn lansio ymgynghoriad ar darged anstatudol ar gyfer Cymru i haneru gwastraff bwyd erbyn 2025, yn erbyn gwaelodlin 2006-07. 

Fe wnaeth Lesley Griffiths y cyhoeddiad wrth groesawu Roseanna Cunnigham i Gymru, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio’r Tir, Llywodraeth yr Alban. Yr Alban oedd y wlad gyntaf yn y DU i osod targed ar gyfer lleihau gwastraff bwyd.

Bydd y ddau Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu barn a gwybodaeth ynglŷn â rheoli gwastraff ac adnoddau. Mae Lesley Griffiths yn awyddus i glywed am brofiad llywodraeth yr Alban ynglŷn â gosod targed ar gyfer gwastraff bwyd, a bydd yn trafod â Roseanna Cunnigham sut y mae Cymru wedi llwyddo o ran ailgylchu gwastraff trefol. Daw’r ymweliad wythnos cyn rhyddhau’r ystadegau blynyddol dros dro ar gyfer gwastraff yn 2016/17, lle mae Cymru’n disgwyl gwella cyfradd y llynedd o 60% - yr uchaf ond dwy yn y byd.

Bydd ysgrifenyddion y cabinet hefyd yn trafod eu hymrwymiad i ddatblygu economi fwy cylchol lle y gall deunyddiau o ansawdd uchel sydd wedi dod o gynhyrchion gwastraff gael eu rhoi yn ôl i weithgynhyrchwyr a’u defnyddio dro ar ôl tro.

Bydd Lesley Griffiths a Roseanna Cunnigham yn ymweld â ArbedGwastraff Casnewydd, menter gymdeithasol sy’n hyrwyddo pwysigrwydd ailddefnyddio ac ailgylchu, a swyddfa newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi’i hadnewyddu gan ddefnyddio dodrefn a theils a atgyweiriwyd ac a ailgylchwyd, enghraifft wych o’r economi gylchol ar waith. Yn ddiweddar, enillodd y gwaith adnewyddu hwn wobr ryngwladol ar gyfer Arferion Gorau Amgylcheddol.

Cyn yr ymweliadau, dywedodd Lesley Griffiths:

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu i Gymru fy swyddog cyfatebol o Lywodraeth yr Alban er mwyn cymharu ein dulliau rheoli gwastraff. 

“Yng Nghymru rydyn ni ar ein ffordd i gyflawni ein targed uchelgeisiol i ddod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050. Mae’r gyfradd ailgylchu yn uwch nag erioed a dim ond dwy wlad arall sy’n gallu curo ein cyfradd ailgylchu ni o 60%. 

“Rydyn ni’n awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn a gwastraff bwyd yw un maes lle credwn ni y gellir gwneud gwelliannau. Petai dim ond hanner y bwyd a deunyddiau ailgylchadwy sych ym miniau Cymru gafodd ei ailgylchu, byddai Cymru yn cyrraedd ei tharged ailgylchu o 70 y cant ar gyfer 2025 naw mlynedd yn gynt. Bydd yr ymgynghoriad rwy’n bwriadu ei lansio yn archwilio’r potensial i haneru gwastraff bwyd erbyn 2025.Targed uchelgeisiol yw e, ond yn sgil ein perfformiad ailgylchu dros y blynyddoedd diweddaf, dw i’n gwybod os byddwn ni’n cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a chartrefi, y byddwn ni'n gallu cyflawni canlyniadau i syfrdanu’r byd.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid yn yr Hinsawdd a Diwygio’r Tir, Roseanna Cunningham: 

“Rydyn ni’n croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â gwastraff bwyd a fydd yn helpu i arbed arian i gartrefi, lleihau allyriadau ac yn cyfrannu at yr economi gylchol. 

“Yn yr Alban, rydyn ni wedi ymrwymo i leihau gwastraff bwyd 33% erbyn 2025 a allai arwain at arbedion sylweddol i bawb - mae gwastraff bwyd y gellir ei osgoi yn costio £1 biliwn bob blwyddyn i’r Alban neu £460 y cartref. 

“Drwy ein hymgyrch Love Food Hate Waste sy’n annog pobl i leihau gwastraff yn eu cartrefi, cyflwyno’r cynllun bag bwyd mewn bwytai a thrwy gyflwyno deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu mannau ailgylchu gwastraff bwyd, rydyn ni’n cydweithio â chartrefi, manwerthwyr a’r diwydiant er mwyn cyrraedd ein targed.”