Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi diolch i’r asiantaethau niferus sy’n gyfrifol am y broses o lanhau Marina Caergybi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y gwaith glanhau, sy’n cael ei wneud gan nifer o asiantaethau, wedi dechrau ar unwaith wedi i’r Marina gael ei difrodi’n sylweddol yn nhywydd eithafol y mis diwethaf ac o ganlyniad i Storm Emma.  

Mae datblygiadau sylweddol eisoes wedi’u gwneud gydag amcangyfrif bod 30.9 tunnell (916.5m3) o bolystyren wedi ei gasglu. Mae oddeutu 2752 litr o olew hefyd wedi ei gasglu hyd yma. 

Mae’r gwaith o achub y cychod yr effeithiwyd arnynt gan y storm hefyd yn datblygu’n gyflym gyda 28 o gychod  wedi’u hachub o’r lan a gwely’r môr. Gyda’r tywydd teg a’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda, y gobaith yw y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau o fewn mis.  

Y tu allan i ardal Awdurdod Harbwr Caergybi, cafodd dros bedair tunnell o bolystyren ei gasglu o draethau Ynys Môn hyd yma ers y digwyddiad.  

Cafodd Grŵp Rheoli a Chydgysylltu ei sefydlu i drefnu a helpu gyda’r gwaith glanhau ac achub. Mae’r rhai sy’n gyfrifol am y broses lanhau yn cynnwys:    

  • glanhau o fewn ffiniau Awdurdod y Porthladd - Stena Line;
  • glanahau yn ehangach y tu allan i Awdurdod y Porthladd – Cyngor Sir Ynys Môn a’r Awdurdodau lleol yn ehangach;
  • achub Cychod ym Marina Caergybi – Marina Caergybi/Stena Port
  • cyngor ar gynlluniau rheoli gwastraff - Cyfoeth Naturiol Cymru
  • cymorth technegol – Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor ar faterion sy’n gysylltiedig â physgodfeydd sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad drwy’r grŵp rheoli a chydgysylltu.  

Bu Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â’r Marina ddyddiau wedi’r argyfwng i weld y difrod ac mae wedi derbyn y newyddion diweddaraf am y datblygiadau gyda’r gwaith glanhau.  

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Nid oes amheuaeth bod y difrod sydd wedi’i wneud i Farina Caergybi wedi bod yn argyfwng i bob busnes ac unigolyn dan sylw.  Bu effaith sylweddol ar yr amgylchedd gyda gweddillion a polystyren yn y dŵr.  

“O’r dechrau un, bu asiantaethau’n gweithio’n ddi-flino ar y gwaith glanhau ac rwyf am ddiolch iddynt am eu gwaith caled a’u hymdrechion.  Gwelais drosof fy hun y difrod wrth imi ymweld â’r Marina ychydig ddyddiau ar ôl y storm, ac ers hynny rwyf wedi derbyn y newyddion diweddaraf pob diwrnod gan yr asiantaethau sy’n rhan o’r broses glirio.  

“Rwyf wedi ei wneud yn glir fy mod yn fodlon ystyried cymorth ariannol posibl i drwsio’r seilwaith cyhoeddus ac i lanhau y difrod amgylcheddol ac mae fy swyddogion mewn trafodaethau â Chyngor Sir Ynys Môn ynghylch hyn.  

“Diolch i waith caled yr holl asiantaethau dan sylw, mae datblygiadau sylweddol wedi’u gwneud gyda’r gwaith glanhau ac mae llawer o bolystyren ac olew wedi ei gasglu.  Bydd y gwaith yn parhau ac rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r gymuned fod pob ymdrech yn cael ei wneud i adfer y Marina a’i amgylchedd lleol.”