Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, heddiw wedi disgrifio'i gweledigaeth ar gyfer rheoli tir yng Nghymru ar ôl Brexit ac mae hi wedi cychwyn sgwrs â'r diwydiant ynghylch sut i'w gwireddu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ei hanerchiad i gynhadledd yr NFU yn Birmingham, esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet pam mae datganoli'n bwysig ac addawodd eto y gwnâi'n siŵr na fydd Cymru'n colli'r un ddimai goch o arian. 

Yn ystod ei haraith, cyhoeddodd ei phum egwyddor graidd sy'n sail i'w gweledigaeth ar gyfer polisi rheoli tir newydd. Sef:

  • Yr angen i gadw ffermwyr a rheolwyr tir eraill ar y tir . Mae’n rhaid i dir Cymru gael ei reoli gan y bobl sy’n ei nabod.  
  • Mae angen i ni sicrhau y gall ein sector amaeth fod yn llewyrchus a chryf mewn byd ar ôl Brexit, sut bynnag fydd golwg y byd hwnnw.
  • Dylai ein polisi newydd ganolbwyntio ar roi nwyddau cyhoeddus i holl bobl Cymru. 
  • Dylai fod modd i bawb elwa ar ein system gymorth. Golyga hyn roi cyfle i ffermwyr barhau i wneud bywoliaeth o’r tir. 
  • Rhaid i ni beidio â throi ein cefnau ar gynhyrchu bwyd. Lle y mae modd cynhyrchu mewn modd cynaliadwy, mae’n rhaid i ni helpu ein ffermwyr i gystadlu mewn marchnadle byd eang. 

Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  "Wrth inni baratoi i adael yr UE, mae'r ddadl dros ddatganoli'n gryfach nag erioed. Mae natur y diwydiant yng Nghymru'n wahanol ac mae'n cymunedau gwledig yn wahanol. Nid oes un ateb all fodloni pawb. 

"Rwy'n fwy na pharod cydweithio ar faterion perthnasol â Llywodraeth y DU a'm cydweinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond rhaid inni fod yn bartneriaid cydradd. Mae hynny'n golygu trafodaeth deg, llywodraethu teg ac yn bwysicach na dim, ariannu teg. 

"Er bod 18 mis wedi mynd heibio ers y refferendwm, dydyn ni fawr callach pa arian sy'n dod yn ôl i Gymru. Bydda i'n para i fynnu nad yw Cymru'n colli'r un ddimai goch a byddaf yn brwydro dros gadw arian sy'n dod yn ôl i Gymru yng Nghymru. Rhaid inni gadw'r cymorth hanfodol hwn. 

"Mae ffermio'n rhan annatod o'n heconomi wledig. Rwy'n aml yn gorfod atgoffa pobl o'r tu allan i'r sector bod 80% o dir Cymru o dan ofal ffermwyr, coedwigwyr a chyrff amgylcheddol Cymru. Mae eu hangen nhw a'r gwaith maen nhw'n ei wneud arnom i'n helpu i wireddu'n huchelgais o Gymru ffyniannus. 

"Rwyf am ddechrau cyfnod newydd o drafod manwl ynghylch sut polisi rheoli tir newydd sydd ei angen arnom. Heddiw, rwyf am grynhoi'r syniadau sy'n codi a'r pum egwyddor graidd ar gyfer dyfodol ein tir a'r bobl sy'n ei reoli. 

"Yn gyntaf, rhaid inni gadw'n ffermwyr ar y tir. Y rheini sy'n ei nabod ddylai reoli tir Cymru. Dyna fyddai orau i economi cefn gwlad, i'n cymunedau ac i'n hamgylchedd. 

"Yn ail, rydyn ni am weld sector amaethyddol llewyrchus a chryf mewn byd ar ôl Brexit, sut bynnag fydd golwg y byd hwnnw. Mae fy ngrŵp Bord Gron yn dweud nad yw'r status quo yn opsiwn, ac rwy'n cytuno â nhw. Er bod Cynllun y Taliad Sylfaenol yn rhoi help pwysig i lawer o ffermwyr, wnaiff e ddim ein helpu ni i wrthsefyll y newidiadau a ddaw yn sgil Brexit. Mae eisiau inni gynnig help mewn ffordd wahanol. 

"Fy nhrydedd egwyddor yw y dylai'r polisi newydd ganolbwyntio ar sicrhau bod tir Cymru'n rhoi nwyddau cyhoeddus i holl bobl Cymru. Mae amrywiaeth a chyfoeth tir Cymru'n golygu nad oes prinder nwyddau cyhoeddus ganddo i'w rhoi. 

"Yn bedwerydd, dylai'r cymorth fod ar gael i bawb. Mae hynny'n golygu rhoi'r cyfle i ffermwyr barhau i wneud bywoliaeth ar y tir. Ond byddwn yn gofyn i ffermwyr wneud pethau gwahanol yn dâl am gymorth y trethdalwr. Mae hynny'n hanfodol i roi'r diwydiant ar sylfaen gadarn. 

"Fy egwyddor olaf yw na ddylwn droi'n cefnau ar gynhyrchu bwyd. Lle bo cynhyrchu cynaliadwy'n broffidiol, rhaid inni helpu'n ffermwyr i gystadlu ym marchnadoedd y byd. Bwyd yw cnewyllyn gwerthoedd ffermio Cymru ac mae'n un o symbolau'n gwlad. Mae gennym ddiwydiant bwyd a diod llewyrchus eisoes a dyma'r amser i fynd ag e yn ei flaen. 

"Yr egwyddorion hyn yw sylfaen fy syniadau ond megis dechrau mae'r sgwrs mewn gwirionedd. Rwyf am ddechrau trafodaeth fanwl â rhanddeiliaid am y manylion a chlywed eu barn am yr hyn all weithio. 

"Rhaid inni weithio at weledigaeth gytûn. Rwy'n gwybod bod ffermwyr yn gallu addasu ond dyletswydd Llywodraeth yw rhoi'r amser a'r arfau iddyn nhw allu gwneud hynny. 

"Rhaid i'r cyfnod pontio fod yn un go iawn.  Rhaid ei gynllunio'n dda a rhaid iddo bara sawl blwyddyn. Mae gormod yn y fantol - yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol - inni beidio â gwneud hyn yn iawn. 

"Mae'n werth pwyllo i wneud pethau'n iawn. Ni ddaw'r cyfle hwn eto yn ein cenhedlaeth ni ac rwy'n hyderus y gallwn ddatblygu pethau'n gyflym."