Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn dod â chynrychiolwyr diwydiant o’r sectorau ffermio, pysgota, coedwigaeth, yr amgylchedd a bwyd a diod yng Nghymru at ei gilydd, i drafod yr heriau maent yn eu hwynebu o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Gweinidog hefyd yn dweud pa mor ddiolchgar yw hi am eu rôl hanfodol wrth helpu i fwydo’r genedl ac amddiffyn yr amgylchedd naturiol, ac yn amlinellu’r hyn mae’r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi’r sectorau yn ystod y pandemig.

Bydd y cyfarfod bord gron yn cael ei gynnal yn ddigidol am y tro cyntaf.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r pandemig COVID-19 wedi arwain at y newidiadau mwyaf sylweddol i fywyd dinasyddion ers yr Ail Ryfel Byd. Mae hyn wedi cael effaith wirioneddol nid yn unig ar ein bywydau pob dydd ond hefyd ar sectorau allweddol yn ein heconomi.

“Dyna pam rwyf heddiw yn cynnal cyfarfod bord gron ar gyfer cynrychiolwyr diwydiannau allweddol o fewn fy mhortffolio i drafod y problemau mae COVID-19 yn eu peri, yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i’w cefnogi a sut rydyn ni’n gallu gweithio gyda’n gilydd yn y dyddiau heriol hyn.

“Mae hefyd yn gyfle imi ddweud diolch yn ddiffuant i’n diwydiannau bwyd – yn enwedig ein ffermwyr a physgotwyr – sy’n gweithio yn ddiflin i fwydo’r genedl. Diolch i’r rheini sy’n gweithio’n galed i amddiffyn ein hamgylchedd naturiol a’r rôl bwysig maen nhw’n ei chwarae yn ein cymunedau, ein heconomi a’r amgylchedd, yn aml yn addasu eu gwaith – er enghraifft, drwy greu adnoddau ar gyfer plant sydd gartref neu ddarparu manteision iechyd meddwl i bobl drwy werthfawrogi natur. Hoffwn i ddweud diolch hefyd i’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant manwerthu, a llawer ohonyn nhw’n rhyngweithio â’r cyhoeddi am oriau ar y tro – ac i’n busnesau bwyd a diod sy’n mynd y filltir ychwanegol wrth addasu eu gwasanaethau i helpu’r frwydr ehangach a helpu i amddiffyn ein GIG.

“Fel Llywodraeth, byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael a’r heriau mae’r sectorau hyn yn eu hwynebu oherwydd COVID-19.  Rhaid inni weithio gyda’n gilydd i wynebu a goresgyn yr heriau sydd o’n blaenau ni.”