Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi enwi cwch diogelu pysgodfeydd newydd yn swyddogol heddiw ar ôl y cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cwch, a enwyd yn FPV Rhodri Morgan, yn rhan o fflyd fydd yn gofalu am ddyfroedd Cymru gan chwilio am weithgarwch pysgota anghyfreithlon.
Yn unol â'r traddodiad, tywalltodd Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths siampên ar y cwch, ac fe gyflwynwyd hwyl iddi gyda baner Gorfodi Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru arni.
Mae'r hwyl yn cynnwys arwyddluniau o'r pum cwch fydd yn rhan o'r fflyd newydd. Enwau gweddill y fflyd yw FBV Lady Megan, FPV Catrin, FPV Gwenllian ac FPV Siwan.
Mae pob arwyddlun yn cynnwys llun sy'n adlewyrchu y bobl yr enwyd y cwch ar eu holau.
Cafodd Lesley Griffith Ysgrifennydd y Cabinet daith o amgylch y cwch, a dangoswyd sut y bydd y dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei defnyddio i orfodi deddfau pysgodfeydd a'r môr. Yn ogystal â chyfarfod y rhai fydd yn gweithio ar y cwch, dangoswyd iddi hefyd eu llety a'u cyfleusterau. Gall wyth o bobl mewn pedwar caban dwbl fyw ar yr FPV Rhodri Morgan. Mae ganddo hefyd GPS, Radar, Echo a goleuadau chwilio.
Bydd y cychod newydd yn cymryd lle’r hen gychod i amddiffyn dyfroedd Cymru rhag pysgota anghyfreithlon, a diogelu diwydiant pysgota a chymunedau arfordirol Cymru yn y blynyddoedd a ddaw.
Mae'r FPV Rhodri Morgan, cwch patrôl 26 metr sy'n pwyso 75 tunnell ac yn dal 11,000 litr o danwydd, yn cynnwys enw y cyn Brif Weinidog a darlun o ddolffiniaid yn hela macrell i ddangos ei hoffter o wylio dolffiniaid ym Mwnt, Gorllewin Cymru. Mae gan y cwch, sydd wedi'i adeiladu gan Mainstay Marine Solutions Ltd eleni, le hefyd ar gyfer cwch môr 6.5 metr.
Aeth gweddw Rhodri Morgan, Julie i'r seremoni enwi er cof amdano. Wedi cael eu treialu ar y môr, bydd y fflyd newydd yn cael eu defnyddio o fis Ionawr.
Wrth siarad yn y seremoni agoriadol swyddogol, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae'n anrhydedd gallu enwi'r cwch yma ar ôl Rhodri Morgan heddiw; dyn roddodd gymaint i Gymru gan adael ei farc yn barhaus ar ein hanes. Bydd hyn yn deyrnged addas i rhywun oedd yn caru moroedd Cymru a'n byd natur.
Dwi wedi mwynhau cerdded o amgylch y cwch yn arw a gweld drosof fy hun y dechnoleg newydd fydd yn arwain yr ymgyrch yn erbyn pysgota anghyfreithlon.Bydd y cychod hyn yn flaenllaw yn yr ymgyrch i amddiffyn dyfroedd Cymru a'n diwydiant pysgota, gan roi ymateb brys i sicrhau bod Cymru yn parhau i allu gorfodi deddfau pysgodfeydd a moroedd.Cyn yr heriau rydym yn eu hwynebu mewn byd wedi Brexit, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac yn sicrhau bod ein diwydiant pysgota cyn gryfed â phosib, fel y gallwn ffynnu mewn blynyddoedd i ddod."