Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi enwi cwch patrolio pysgodfeydd newydd yn swyddogol, ac wedi trosglwyddo hen gwch i Lywodraeth Liberia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol â thraddodiad, tywalltodd Lesley Griffiths Champagne dros yr FPV Lady Megan newydd, sydd wedi cael ei ddylunio a'i adeiladu yng Nghymru fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru i ddisodli cychod, yn ystod y seremoni enwi ym Marina Conwy.

Mae'r cwch wedi'i enwi ar ôl yr Arglwyddes Megan Arvon Lloyd George, a gafodd ei geni yng Nghricieth. Roedd hi'n wleidydd yng Nghymru a hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Aelod Seneddol dros etholaeth yng Nghymru.  

Mae gan y cwch ei arfbais ei hun â dyluniad sy'n cynnwys draig Cymru yn dal symbol porthcwlis amddiffynnol.  

Mae gan y cwch, sy'n pwyso 56 tunnell ac yn gallu gwneud hyd at 28 not, GPS, radar, goleuadau chwilio a labordy gwlyb. Mae wyth o bobl yn gallu teithio ynddo. 

Aeth Lesley Griffiths ar y cwch, a chael taith o'i amgylch, i weld sut y bydd y cwch yn cael ei ddefnyddio i amddiffyn dyfroedd Cymru rhag pysgota anghyfreithlon ac i ddiogelu diwydiant pysgota Cymru. Mae'n rhan o fflyd newydd sy'n werth miliynau o bunnoedd, sydd hefyd yn cynnwys FPV Rhodri Morgan, FPV Catrin, FPV Gwenllian ac FPV Siwan.

Yn ystod yr ymweliad, gwnaeth Lesley Griffiths hefyd drosglwyddo hen gwch y fflyd, FPV Aegis, a fydd bellach yn cael ei ailenwi'n 'Pride of Wales' i adlewyrchu ei wreiddiau yng Nghymru, i Lywodraeth Liberia. 

Mae hyn yn digwydd ar ôl i dîm ‘Cymru o blaid Affrica' Llywodraeth Cymru gysylltu â Llywodraeth Liberia ynghylch y posibilrwydd o roi FPV Aegis iddynt. Ar ôl trafodaethau helaeth rhwng y tîm, cynrychiolwyr Adran Pysgodfeydd Banc y Byd, Tîm Pysgodfeydd yr UE, a Gwylwyr Glannau a sefydliadau pysgodfeydd Liberia, cytunwyd ar drefniadau ar gyfer trosglwyddo'r cwch. 

O ganlyniad i'r rhodd, bydd y cwch 'Pride of Wales' yn helpu i amddiffyn y dros 40,000 o bysgotwyr Liberia sy'n sy'n pysgota mewn ceufadau i fwydo eu teuluoedd, yn ogystal ag amddiffyn y gymuned ehangach rhag treillongau o dramor sy'n gweithredu'n anghyfreithlon yn nyfroedd Liberia. Mae pysgod yn darparu 60% o’r protein mae pobl Liberia yn ei fwyta – gwlad sydd wedi cael ei difetha gan ryfel cartref, ac yn ddiweddarach gan Ebola.   

Yn ystod seremoni fer cafodd baneri eu newid ar FPV Aegis i nodi ei berchnogion newydd, gerbron cynrychiolwyr o Lywodraeth Liberia. 

Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: 

"Rwyf wrth fy modd cael enwi FPV Lady Megan, a gweld y dechnoleg arloesol a fydd yn cael ei defnyddio i amddiffyn dyfroedd Cymru rhag pysgota anghyfreithlon, ac i ddiogelu diwydiant pysgota Cymru. 

"Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn defnyddio cyfleusterau modern fel y rhain i sicrhau bod Cymru yn parhau i orfodi cyfreithiau pysgodfeydd a morol mewn modd effeithiol. Rwy'n falch iawn o'r holl fflyd sydd bellach gennym, ac rwy'n edrych ymlaen at ei gweld ar waith.

"Bydd Brexit yn arwain at nifer o heriau, ond mae'r cychod hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i gefnogi ein diwydiant pysgota ac i wella sefydlogrwydd ar gyfer y dyfodol."

Gan siarad am drosglwyddo FPV Aegis i Lywodraeth Liberia, dywedodd: 

"Mae cael y cyfle i drosglwyddo'r hen gwch i Lywodraeth Liberia yn fraint fawr. Rwy'n gwybod y bydd yn fuddiol iawn i'w diwydiant. Mae'n bwysig y gall asedau pwysig fel hyn gael eu hailddefnyddio, gan ei fod yn sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol yn ogystal ag adeiladu cysylltiadau â phartneriaid o gwmpas y byd."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:   

"Mae'r rhaglen Cymru dros Affrica wedi mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae trosglwyddo FPV Aegis i Lywodraeth Liberia yn un enghraifft yn unig o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud. 

"Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl Liberia, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y buddion mae'r rhodd hon yn eu rhoi i'w diwydiant pysgota yn cael eu teimlo gan genedlaethau am flynyddoedd maith. Rwy’n falch bod prosiectau fel yr un hwn yn meithrin y berthynas rhwng Cymru ac Affrica, ar adeg pan fydd yn bwysicach nag erioed ein bod yn edrych tuag allan i weld sut rydyn ni'n gallu cefnogi prosiectau dramor."