Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi pennu amserlen heddiw ar gyfer dyfodol Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru wedi Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yn y Cyfarfod Llawn ar ddyfodol rheoli tir, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau fel a gynlluniwyd ar gyfer 2018 ac ar gyfer 2019.

O 2020 pan fydd pwerau yn dychwelyd o Ewrop, bydd pontio graddol dros sawl blwyddyn o'r cynlluniau presennol i rai newydd. Erbyn 2025 hoffai Ysgrifennydd y Cabinet i'r broses ddod i ben a bydd yn rhoi amlinelliad o'r manylion pellach ym mis Gorffennaf, fydd yn destun ymgynghoriad.

Bu Ysgrifennydd y Cabinet yn ail-ddatgan ei phum egwyddor graidd ar gyfer dyfodol ein tir a'r bobl fydd yn ei reoli.  Sef:

  • rhaid inni gadw rheolwyr tir ar y tir;
  • mae cynhyrchu bwyd yn hanfodol i'n cenedl;
  • bydd y cymorth yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddarparu nwyddau cyhoeddus fydd yn darparu ar gyfer holl bobl Cymru; a
  • dylai pob rheolwr tir gael y cyfle i elwa o'r cynlluniau newydd hyn.
  • rydym angen sector amaethyddol llewyrchus a chadarn yng Nghymru, ar ba ffurf bynnag fydd Brexit.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Daw â newid sylweddol ac mae’n rhaid inni gael cyfnod pontio dros nifer o flynyddoedd sydd wedi’i gynllunio’n dda.  Dysgais bwysigrwydd peidio â dileu cymorthdaliadau ar unwaith yn ystod fy nhaith ddiweddar i Seland Newydd.

"Rwyf wedi datgan yn glir erioed na ddylem golli ceiniog o gyllid o ganlyniad i adael yr UE, a byddaf yn parhau i frwydro i amddiffyn dyraniad llawn a theg o gyllid i gefnogi'r broses o reoli tir yng Nghymru. 

"Mae Llywodraeth y DU wedi methu hyd yma â darparu unrhyw fanylion neu ymrwymiad y tu hwnt i 2022, ac fe ysgrifennais yn ddiweddar at fy swyddog cyfatebol yn yr Alban, Michael Gove yn holi am eglurder ar fyrder o ran y cyllid yn y dyfodol.

"Er gwaethaf yr ansicrwydd hwn rwyf am osod amserlen i ffermwyr Cymru. Bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau fel a gynlluniwyd yn 2018.Gallaf gadarnhau heddiw y byddaf hefyd yn parhau i weithredu Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer y cynllun yn 2019. 

"O 2020 bydd y pwerau yn dychwelyd o Ewrop. Roeddwn yna'n rhagweld pontio graddol dros sawl blwyddyn o'r cynlluniau presennol i gynlluniau newydd. Erbyn 2025 rwyf am fod wedi cwblhau'r broses o weithredu'r cynlluniau newydd. Byddaf yn pennu manylion pellach ym mis Gorffennaf a gallaf warantu y bydd y newidiadau yn destun ymgynghoriad clir.

“Her fawr Brexit yw sicrhau nad yw ei effaith yn tanseilio gwir werth rheoli tir yng  Nghymru.  Mae gennym gyfle euraidd i lunio polisi newydd a fydd yn helpu Cymru i addasu a ffynnu ym marchnadoedd y byd.

"Fel Llywodraeth, rydym yn benderfynol o sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa gryfaf i ffynnu wedi Brexit. Rwy’n siŵr y gall ein rheolwyr tir addasu, a swyddogaeth y Llywodraeth hon yw darparu'r amser a'r cymorth i wneud hyn.”