Neidio i'r prif gynnwy

Mynd i'r afael â newid hinsawdd oedd ar ben yr agenda wrth i  Lesley Griffiths, gwrdd ag arweinwyr cenedlaethol ac is-genedlaethol yn yr Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd yng Nghaliffornia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth arweinwyr o lywodraethau, busnesau a chymdeithasau sifil ar draws y byd i'r uwchgynhadledd er mwyn ‘symud y gwaith ymlaen i'r lefel nesaf.’ 

Aeth Cymru ati yn yr Uwchgynhadledd i ymaelodi â'r Powering Past Coal Alliance, gan ehangu’r Gynghrair i 74 o aelodau. Mae’r Gynghrair yn cynnwys llywodraethau, dinasoedd a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i droi eu cefnau ar losgi glo ac i ddefnyddio ffynonellau pŵer glanach yn ei le.  

Cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfodydd gydag arweinwyr o wladwriaethau a rhanbarthau, gan gynnwys Columbia Brydeinig, Baden-Württemberg, Gwlad y Basg a Quebec, gan rannu syniadau ynghylch gwella effeitholrwydd ynni, galluogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gwella lefelau ailgylchu ymhellach, datgarboneiddio trafnidiaeth ac ehangu ein coetiroedd. 

Cafodd Cymru ei chadarnhau unwaith eto fel Aelod Grŵp Llywio Cynghrair o Dan2 dros Ewrop, y gynghrair o lywodraethau is-genedlaethol sy’n bwriadu gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r gynghrair yn cynnwys cynrychiolaeth o 43 o wledydd  gyda chynnyrch domestig gros o bron i $30 triliwn.

Dywedodd Lesley Griffiths ar ôl yr Uwchgynhadledd: 

"Mae newid hinsawdd yn her fyd-eang lle y mae angen atebion byd-eang. O'r herwydd mae'n gwbl allweddol ein bod yn cydweithio â'n partneriaid rhyngwladol. 

"Mae gennym dargedau sydd wedi'u rhwymo mewn cyfraith sy'n ei gwneud hi'n bosibl i leihau allyriadau yng Nghymru o leiaf 80% erbyn 2050. Roedd yr uwchgynhadledd yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth gyda gwledydd eraill ynghylch polisïau cyhoeddus llwyddiannus a thechnolegau carbon isel. 

"Mae gennym hanes llwyddiannus yng Nghymru o ddatblygu polisïau gwyrdd blaengar. Ni oedd y wlad Fasnach Deg gyntaf yn y Byd, y wlad gynfaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa untro, a gallwn ymfalchïo yn y ffaith mai Cymru yw'r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu gwastraff y cartref. 

"Ni allwn gyflawni ein targedau newid hinsawdd ar ein pen ein hunain, fodd bynnag. Roedd yr uwchgynhadledd yn gyfle gwych i feithrin cysylltiadau â Llywodraethau eraill fel y gallwn gydweithio tuag at yr un nod, sef mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd." 

Bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Cyflawni ein Llwybr Carbon Isel hyd at 2030, yn parhau hyd 4 Hydref