Neidio i'r prif gynnwy

A Brexit lai na blwyddyn i ffwrdd, mae Lesley Griffiths, yn ymweld â Chatalonia a Gwlad y Basg i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru ac i ddysgu o lwyddiant sectorau’r gwledydd hynny.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr ymweliad, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â gwahanol glystyrau bwyd i weld sut y maent yn cael eu defnyddio i hyrwyddo eu diwydiant bwyd a diod a sut y gall Clystyrau Bwyd Cymru ddysgu oddi wrthynt i helpu’n busnesau ni i werthu mwy a chystadlu’n well.   

Yng Ngwlad y Basg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â’r Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i drafod rhwydwaith newydd o 'ranbarthau bwyd enwog' yr UE - y rhwydwaith REGAL. Nod y rhwydwaith yw datblygu diwylliant bwyd a chefnogi entrepreneuriaeth ac arloesedd. Mae’r ymweliad hwn yn un o’r ymweliadau Gweinidogol rheolaidd rhwng Cymru a Gwlad y Basg wrth inni barhau i gryfhau’r cysylltiadau cydweithredol rhwng y ddwy wlad.

Grwpiau o fusnesau yw clystyrau bwyd, sydd â’r un diddordeb mewn cydweithio er lles pawb. Eu nod yw sicrhau nad yw busnesau’n gweithio ar eu pennau eu hunain, yn enwedig busnesau bach a chanolig, a’u cysylltu â systemau arloesol.  Mae dros 450 o gwmnïau yng Nghlystyrau Cymru, ac maen nhw’n creu busnes drwy annog mwy o gydweithio yn y sector.

Ym mis Chwefror, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet fod trosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi cynyddu a’i fod yn agos iawn at gyrraedd targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o 30%.

Roedd cynnydd o 8% mewn allforion bwyd a diod Cymru, o £403.8 miliwn yn 2015 i £435.6 miliwn yn 2016, gan gynnwys cynnydd yng ngwerth yr allforion hyn i’r UE.

Gan siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Dw i’n falch o ymweld â Chatalonia a Gwlad y Basg i hyrwyddo ein diwydiant bwyd a diod ffyniannus, i ddysgu o lwyddiant eu mentrau clwstwr arloesol ac i archwilio cyfleoedd i gydweithredu yn y dyfodol.

“Rydyn ni wedi gweld cwmnïau o Gymru’n datblygu’n frandiau byd-eang, ac ansawdd uchel y bwyd a diod a gynhyrchwn yng Nghymru sy’n gyfrifol am hynny. Mae’n clystyrau bwyd a diod yn sbarduno twf ac yn agor marchnadoedd newydd i’n diwydiant. Bydd yr ymweliad hwn yn ein helpu i adeiladu ar hyn, gan ein galluogi i ddysgu o brofiadau Catalonia a Gwlad y Basg a chryfhau’r cysylltiadau rhwng ein gwledydd.

“Mae amser anodd o’n blaenau’n ddi-os. Yr UE yw’r prif gwsmer ar gyfer ein cynnyrch o hyd, a hynny o bell ffordd. Dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn defnyddio pob cyfle i adeiladu partneriaethau cydweithredol yn Ewrop a dysgu oddi wrth lwyddiannau diwydiannau bwyd a diod eraill.

“Mae'r diwydiant bwyd a diod yn sector ‘sylfaen’ allweddol inni. Mae’r ymweliad hwn felly’n arbennig o amserol wrth inni weithio i sicrhau diwydiant gwydn a ffyniannus yng Nghymru ar ôl gadael yr UE.”