Neidio i'r prif gynnwys

Yr hyn sy'n cael ei gynnig

  • Seminar ymgyfarwyddo hanner diwrnod yng Nghaerdydd, gan gynnwys sgwrs gan oroeswr yr Holocost.
  • Ymweliad undydd â Chofeb ac Amgueddfa Auschwitz-Birkenau yng Ngwlad Pwyl.
  • Seminar dilynol hanner diwrnod.
  • Gwaith grŵp wedi'i gefnogi i edrych ar ffyrdd y gall myfyrwyr rannu'r hyn maent wedi'i ddysgu.

Pwy sy'n cael gwneud cais?

Gall pob myfyriwr mewn addysg ôl-16 mewn ysgolion a cholegau a ariennir gan y wladwriaeth yng Nghymru gymryd rhan. Rhaid i athro a (neu) tiwtor cydlynu wneud cais ar ran y myfyrwyr.

Gall dau fyfyriwr o bob ysgol neu goleg gymryd rhan. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael i athrawon.

Beth yw'r gost?

Cost y cwrs yw £75 y pen. Mae cymorthdaliadau teithio ar gael.

Sut i wneud cais?

Mae lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i ysgolion a cholegau nad ydynt wedi cymryd rhan o'r blaen.