Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd ar wartheg sy'n cael ei achosi gan feirws yw lewcosis ensootig buchol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw'r clefyd yn bod ym Mhrydain mwyach ac nid yw pobl yn gallu ei ddal.

Amheuon a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon y gall lewcosis ensootig buchol fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.

Arwyddion clinigol

Nid yw gwartheg heintiedig yn dangos llawer o arwyddion, os o gwbl. Bydd yr arwyddion clinigol, os oes rhai, yn dibynnu ar ba organau yr effeithir arnynt.

  • tiwmorau ar lawer rhan o'r corff, yn fewnol ac allanol
  • colli graen
  • gwendid
  • anemia
  • anorecsia
  • dolur rhydd neu rwymedd
  • parlys rhannol ar y coesau ôl

Gwelir yr arwyddion clinigol fel arfer ar wartheg 4-8 oed a dim ond ambell waith ar wartheg o dan 2 oed.

Os gwelir tiwmorau ar garcas mewn lladd-dy, mae'r carcas yn cael ei gadw. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cymryd samplau ohono.

Trosglwyddo, atal a thriniaeth

Mae'n cael ei drosglwyddo o'r fam i'r llo ac o fuwch i fuwch, gan achosi lewcemia a llawer o diwmorau.

Nid oes modd trin lewcosis ensootig buchol. Rhaid difa pob anifail heintiedig a'r gwartheg all fod wedi bod mewn cysylltiad â'r haint.