Neidio i'r prif gynnwy

Dyfodol cadarnhaol i Hollie diolch i Robert, rhoddwr a thad.

Rhoddwyr byw: Hollie Bailey

I Hollie Bailey, o Gaerffili, bu delio â phroblemau iechyd yn rhan fawr o’i bywyd ers iddi fod yn fabi bach. Cafodd ei geni ag arennau llai na’r cyffredin, a arweiniodd at ddatblygu methiant aren llwyr erbyn iddi gyrraedd 13 oed, a’i thrawsblaniad cyntaf yn 2006. Dirywiodd ei hiechyd eto yn 2014 gan olygu bod angen ail drawsblaniad aren ar Hollie pan oedd hi’n 23 oed.

Meddai Hollie:

“Ar ôl mwynhau bywyd normal am gynifer o flynyddoedd ar ôl cael y trawsblaniad aren gyntaf, roedd hi’n eithriadol o anodd delio â’r dirywiad sydyn yn yr aren honno ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Heb sôn am y triniaethau dialysis dwys dyddiol a’r perygl y byddai’n rhaid aros yn hir am ail aren addas i’w thrawsblannu”

“Cafodd fy mam a nhad eu profi fel darpar roddwyr, ac roedd hi’n rhyddhad mawr pan gadarnhawyd fod Dad yn addas ar gyfer rhoi’i aren. Mi fydda i’n ddiolchgar am byth am y rhodd mae e wedi’i rhoi i mi.

Ers i mi dderbyn aren newydd, rwy bellach wedi adfer fy iechyd yn llwyr, ac rwy’n gweithio’n llawn amser unwaith eto – rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosib o gwbl cyn y llawdriniaeth, am fy mod i wedi blino drwy’r amser bryd hynny. Erbyn hyn mae gen i ddigonedd o egni i fwynhau gyda fy ffrindiau a’r teulu.”

Ychwanega’i llystad Robert:

“Roedden ni wrth ein bodd, wrth gwrs, mod i’n addas ar gyfer bod yn rhoddwr i Hollie, Roedd gorfod ei gweld hi’n dioddef oriau di-ben-draw o ddialysis ar ei harennau’n anodd i bawb. Cyn gynted ag y deallon ni fod ein gwaed ni’n cydweddu, fe ddechreuais i ar naw mis o brofion dwys, er mwyn gwyned yn siŵr mod i’n holliach ac yn gallu rhoi aren i Hollie.

Fe gawson ni gefnogaeth o’r radd flaenaf gan yr ysbyty, ac rydym ni’n dal i’w dderbyn. Os oes unrhyw un yn pendroni a ddylen nhw optio i mewn neu allan, fe faswn i’n dweud, optiwch i mewn. Mae’r effaith y gallwch chi ei gael ar ansawdd bywyd rhywun yn enfawr.”
 

Rhoddwyr byw - oes diddordeb gennych chi?

Dysgwch am sut i ddod yn rhoddwr byw a rhoi'r rhodd orau bosib.