Neidio i'r prif gynnwy

ae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi y bydd yn llacio rhagor o reolau Glastir dros dro, er mwyn helpu ffermwyr a pherchenogion tir sy'n rhan o'r cynllun ar ôl i'r cyfnod hir o dywydd sych.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ddiweddar, mae ffermwyr a pherchenogion tir wedi cyfeirio at anawsterau wrth droi'r pridd a hefyd at y ffaith bod mwy o berygl i gnydau fethu oherwydd y tywydd sych. 

Bydd rhanddirymiad cyffredinol bellach tan 15 Awst ar sefydlu gwreiddgnydau. Er nad oes angen i ddeiliaid contractau gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru, mae'n rhaid i gofnodion fferm, megis dyddiaduron gwaith, gael eu diweddaru.

Fel arall, gall deiliaid contractau ofyn i beidio â dilyn yr opsiwn gwreiddgnydau ar gyfer 2018. O dan yr amgylchiadau hyn, ni fydd yn cyfrannu at daliad 2018 ond ni fydd unrhyw gosbau am beidio â dilyn yr opsiwn ychwaith. Rhaid i hawlwyr wneud cais am y rhanddirymiad hwn ymlaen llaw naill ai'n ysgrifenedig neu drwy RPW Ar-lein.

O ran ydau heb eu sgeintio a heuwyd yn y gwanwyn, mae'r rheolau presennol yn atal busnesau fferm rhag cynaeafu’r cnwd cyn 1 Awst neu tan 14 wythnos ar ôl ei hau (p’un bynnag sydd hwyraf). Bydd dirymiad cyffredinol yn caniatáu bellach i gynaeafu ddechrau o 15 Gorffennaf ymlaen. Unwaith eto, nid oes angen i ddeiliaid contractau gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru ond mae'n rhaid iddyn nhw ddiweddaru cofnodion fferm.

Ar gyfer y deiliaid contractau hynny sydd ag opsiynau gweirglodd, llaciwyd y rheolau eisoes er mwyn caniatáu iddynt dorri'r gwair cyn 15 Gorffennaf. Nid oes angen i ddeiliaid contractau gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru ond mae'n rhaid iddyn nhw ddiweddaru cofnodion fferm.

Os yw ffermwyr a pherchenogion tir yn cael anhawster ceisio bodloni gofynion rhai o opsiynau eraill Glastir, neu os ydynt yn wynebu problemau gyda lles anifeiliaid, er enghraifft, cael gafael ar ddigon o ddŵr ar gyfer da byw, fe'u cynghorir i gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru ar unwaith er mwyn i swyddogion fedru ystyried eu hachos unigol nhw.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae'r cyfnod hir o dywydd twym a sych wedi bod yn gryn her i ffermwyr ledled Cymru. 

"Dwi'n awyddus inni fedru cynnig hyblygrwydd iddyn nhw a dwi'n falch o fedru cyhoeddi bod rhagor o reolau Glastir yn cael eu llacio dros dro. Bydd hynny nid yn unig yn helpu ffermwyr i liniaru effeithiau'r cyfnod sych ond yn eu galluogi hefyd i barhau i gyflawni'r ymrwymiadau sydd arnyn nhw dan Glastir."   

Mae cyngor a rhagor o fanylion am y rhanddirymiadau i'w gweld ar tudalennau Glastir.