Neidio i'r prif gynnwy

Mae llai o gleifion yn marw o glefyd yr afu sy’n gysylltiedig ag alcohol, ond mae angen i bobl wneud mwy o hyd i osgoi cyflyrau ar yr afu y mae modd eu hatal.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyna a ddywedir mewn adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw gan Lywodraeth Cymru. 

Mae’r adroddiad cyntaf ar glefyd yr afu ar gyfer Cymru gyfan yn amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu, ac yn nodi’r meysydd y mae angen eu gwella. 


Mae’r adroddiad yn dangos bod nifer y bobl sy’n marw o glefyd yr afu sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi gostwng 7% yn y pum mlynedd diwethaf – o 494 o farwolaethau  yn 2010 i 459 o farwolaethau yn 2014. Cafwyd gostyngiad yn y nifer sy’n yfed mwy o alcohol na’r canllawiau a argymhellir, o 44% yn  2010 i 40% yn 2015. 

Cyflwynwyd Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefyd yr Afu er mwyn mynd i’r afael â’r nifer cynyddol o farwolaethau oherwydd clefyd yr afu yng Nghymru. Mae’r nifer hwnnw wedi mwy na dyblu dros yr 20 mlynedd diwethaf, a hynny’n bennaf oherwydd y cynnydd mewn gordewdra, camddefnyddio alcohol a hepatitis a gludir yn y gwaed. Mae modd atal clefyd yr afu sy’n digwydd oherwydd y tri achos hyn bron yn llwyr. 

I gefnogi’r Cynllun, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £2.4m o gyllid ym mis Chwefror i wella addysg, ymyrraeth gynnar a chamau atal, ac i ddarparu’r gofal cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir.

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod lle i wella o hyd. Mae hynny’n cynnwys yr angen i leihau nifer y derbyniadau brys i ysbytai ar gyfer clefyd yr afu, a’r angen i barhau i fynd i’r afael â’r cynnydd a welwyd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf yn nifer y marwolaethau a nifer yr achosion o ganser yr afu.

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: 
“Nod y cynllun cyflawni ar gyfer clefyd yr afu, a gyhoeddwyd y llynedd, yw atal y cynnydd yn nifer yr achosion a nifer y marwolaethau o glefyd yr afu. Hyn yn ogystal â rhoi mwy o gymorth i gleifion, gwella ansawdd gwasanaethau, ac annog cleifion i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd a’u gofal. 
“Rwy’n falch o weld bod yr adroddiad yn dangos bod llai o bobl yn marw o glefyd yr afu sy’n gysylltiedig ag alcohol a bod llai o bobl yn goryfed mewn pyliau. Er hynny, mae tipyn o ffordd i fynd o hyd cyn y byddwn yn llwyddo i  wrthdroi’r duedd  mewn marwolaethau oherwydd clefyd yr afu.  
“Bydd ein Gwasanaeth Iechyd yn parhau i wneud ei ran trwy drin pobl sydd angen triniaeth, ond mae’n rhaid i bob un ohonom wneud mwy i osgoi cyflyrau y gellir eu hatal. 

Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru: 
“Ein nod yw bod GIG Cymru yn darparu’r gofal gorau posibl i bawb sydd â chlefyd yr afu. 

“Trwy gyhoeddi’r adroddiad cyntaf hwn ar gyfer Cymru gyfan rydym yn cyfuno’r wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â pherfformiad gwasanaethau GIG Cymru ar gyfer pobl â chlefyd yr afu. Mae’n dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud hyd yma yn y maes hwn ac yn dangos lle mae angen gwella yn y dyfodol.
“Mae sawl her o’n blaenau, ond trwy barhau i weithio gyda phartneriaid gallwn gynnal y momentwm hwn. Ein blaenoriaethau dros y flwyddyn nesaf fydd codi ymwybyddiaeth o ffactorau risg a newidiadau mewn ffordd o fyw er mwyn atal clefyd yr afu a gwella diagnosis cynnar, gan sicrhau bod y llwybrau clinigol yn gweddu i anghenion cleifion.”