Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod llai o bobl yn dioddef o glefyd y galon, yn cael eu trin yn gynt, ac yn achub mwy o fywydau drwy diagnosis cynnar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021


Mae'r adroddiad, hefyd yn datgan bod llai o bobl yn dioddef o glefyd y galon, bod mwy o bobl yn cael eu trin yn gynt ac yn nes at y cartref a bod mwy o fywydau'n cael eu harbed o ganlyniad i ddiagnosis cynnar o gyflyrau sy'n gysylltiedig â chlefyd y galon.

Yr adroddiad hwn yw trydydd adroddiad blynyddol y Llywodraeth ar glefyd y galon. Mae'n dangos y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran y camau a nodwyd yng Nghynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd ac mae’n elfen bwysig o ymroddiad parhaus y Llywodraeth i wella’r canlyniadau i bobl â chlefyd y galon yng Nghymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Dyma adroddiad cadarnhaol sy'n dangos y cynnydd sylweddol ry'n ni'n ei wneud wrth drin clefyd y galon ac i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n dioddef o broblemau cardiofasgwlaidd.

"Mae'r gostyngiad cyson yn nifer y bobl sy'n marw o glefyd cardiofasgwlaidd, ynghyd â'r ffaith bod llai o bobl yn dioddef o glefyd y galon yn ganlyniad yr ydyn ni'n falch ohono.

"Ry'n ni wedi gwneud llawer o waith yn y maes hwn, ac yn gynharach eleni fe wnaethon ni gyhoeddi y byddai'r camau gweithredu a gymerwyd i leihau nifer y bobl oedd yn marw cyn eu hamser o glefydau cardiofasgwlaidd yng nghymunedau mwyaf difreintiedig y De, bellach yn cael eu gweithredu ledled Cymru.

"Bydd hyn yn helpu i adnabod pobl sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd a chefnogi cynlluniau atal a rheoli risg mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol.

"Mae sicrhau bod y bobl hynny sydd wedi dioddef o glefyd y galon yn cael y driniaeth adsefydlu gywir yn rhan hanfodol o wella eu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiad heddiw yn dangos bod 180 yn fwy o gleifion wedi cael triniaeth adsefydlu cardiaidd yn 2014-15 na'r flwyddyn flaenorol.

"Ar ôl dilyn rhaglen adsefydlu, mae'r rhan fwyaf o gleifion yn gwneud mwy o ymarfer corff, yn teimlo'n well yn eu hunain, yn gallu rheoli eu pwysau gwaed a'u colesterol yn well, ac mae ansawdd eu bywyd well. Mae hyn yn newyddion gwych o safbwynt eu iechyd a'u ffitrwydd cyffredinol wrth edrych tuag at y dyfodol.

"Mae'n amlwg o'r adroddiad bod pethau'n datblygu fel y dylen nhw. Hoffwn roi clod i'r rheini sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel yn ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig cydnabod yr hosbisau, yr elusennau, y gofalwyr a'r teuluoedd sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth i gleifion â chlefyd y galon. Hebddyn nhw byddai'n anodd iawn i'r gwasanaeth iechyd gynnig cystal gwasanaeth.

"Ond nid da lle gellir gwell, ac mae'r adroddiad yn nodi'r meysydd rheini y dylid rhoi sylw iddynt. Byddwn yn edrych ar y meysydd hyn ac yn parhau i adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd wedi’i wneud yn barod."