Neidio i'r prif gynnwy

Llanrwst fydd yn cynnal digwyddiad cyntaf Cyfarfod Carwyn 2017, gan roi cyfle i breswylwyr Dyffryn Conwy gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’i holi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhelir y sesiwn rhwng 6pm a 7.30pm ddydd Iau 19 Ionawr yng Nghanolfan Glasdir yn y dref. [Canolfan Fusnes a Chynadledda Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF].

Os oes gennych chi gwestiwn i ofyn i Lywodraeth Cymru, os ydych am godi materion sy’n effeithio ar eich cymuned, neu os oes gennych syniad gwych a fyddai’n gwneud eich tref chi’n lle gwell i fyw, cofiwch ddod draw i’r Ganolfan.

Os hoffech ddod i’r digwyddiad, rydym yn eich annog i gofrestru eich diddordeb ar-lein drwy Eventbrite.

Cewch ofyn cwestiwn mewn nifer o ffyrdd. Cewch gyflwyno eich cwestiwn pan fyddwch yn cyrraedd (bydd y drysau’n agor am 5:30pm); neu cewch ei gyflwyno ymlaen llaw drwy e-bost: cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales gyda’r hashnod #CyfarfodCarwyn

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones:

“Rwy’n falch y bydd y digwyddiad Cyfarfod Carwyn cyntaf yn y Flwyddyn Newydd yn cael ei gynnal yn Llanrwst.  Dyma’r cyntaf o nifer o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod 2017.

“Mae amrywiaeth enfawr o bynciau wedi cael eu codi mewn digwyddiadau yn y gorffennol, a hefyd bu llawer o drafodaeth bositif. Dw i’n siŵr y bydd yr un peth yn digwydd eto yn Llanrwst.

“Dyma’ch cyfle chi i ddod draw i siarad gyda mi wyneb yn wyneb am y materion sy’n bwysig i chi. Os oes gennych chi bwnc llosg yr ydych am ei drafod, cofiwch alw heibio. Dw i wir yn edrych ymlaen at gyfarfod â chi i gyd.”

Bydd manylion y digwyddiadau Cyfarfod Carwyn eraill sydd i’w cynnal yn 2017 yn cael eu cyhoeddi’n nes ymlaen.