Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ymchwil yn archwilio'r ffactorau sy'n effeithio ar allu busnesau bach i ddod o hyd i eiddo addas yng nghanol trefi Cymru.

Eiddo a ffefrir

Y mwyafrif o fusnesau a arolygwyd  yn ffafrio lleoliadau ar y stryd fawr. Roedd galw uwch am swyddfeydd a gweithdai na mannau manwerthu. Roedd y prif ystyriaethau ar gyfer dewis lleoliad yn cynnwys hygyrchedd, cost ac amodau tenantiaeth.

Heriau canfod eiddo

O'r rhai a holwyd a oedd wedi adleoli yn ddiweddar, daeth 93% o fusnesau o hyd i eiddo o fewn chwe mis.

O'r busnesau hynny a holwyd a oedd yn dal i chwilio am eiddo, roedd 40% wedi bod yn chwilio am fwy na chwe mis.

Roedd llawer o eiddo'n ymddangos yn wag ond roeddent wedi'u clymu mewn prydlesi tymor hir neu heb wybodaeth gyswllt glir ar gyfer y landlord. Roedd prisiau rhent uchel, costau trawsgludo a threthi busnes yn atal busnesau bach rhag symud i eiddo newydd. Yn aml, roedd busnesau'n ei chael hi'n anodd canfod eiddo oherwydd diffyg gwybodaeth am yr eiddo sydd ar gael.

Gwasanaethau cymorth (anariannol)

O’r rhai a holwyd, roedd 74% o’r busnesau a oedd wedi adleoli’n ddiweddar yn ymwybodol o Fusnes Cymru ond ni wnaethon gael cymorth. Cymorth Awdurdodau Lleol ac Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) oedd yn darparu'r gyfradd uchaf o gymorth, er bod ymwybyddiaeth ohonynt yn amrywio. Roedd gan Fanc Datblygu Cymru a Cwmpas gyfraddau uwch o geisiadau aflwyddiannus, gan nodi anghysondeb posibl o ran yr hyn yr oedd y gwasanaeth yn ei ddarparu.

Gwasanaethau cymorth (ariannol)

Nid oedd rhai busnesau a oedd yn chwilio am eiddo yn ymwybodol o'r prif raglenni ariannu. Er gwaethaf y ffaith bod cymorth ariannol ar gael, ni wnaeth llawer o fusnesau bach gais amdano oherwydd prosesau cymhleth neu bryderon am gymhwysedd.

Arweinyddiaeth lle a chydweithio

Mewn ardaloedd lle bu cydweithio cryf rhwng awdurdodau lleol, Ardaloedd Gwella Busnes a rhwydweithiau busnes gwelwyd canlyniadau gwell o ran lleihau nifer yr adeiladau gwag. Mae arweinyddiaeth lle effeithiol yn gofyn am gyllid penodol a chefnogaeth staff. Roedd modelau tenantiaeth tymor byr (fel mentrau dros dro) yn effeithiol o ran dangos hyfywedd busnes ac adeiladu hyder ymhlith landlordiaid.

Cyswllt

Benjamin Lewis

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.