Neidio i'r prif gynnwy

Mae datblygu lleoedd a fydd yn cyfoethogi bywydau pobl wrth wraidd polisi cynllunio newydd Cymru sy'n cael ei lansio heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth lansio Polisi Cynllunio Cymru mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi galw ar gynllunwyr a datblygwyr i ystyried yn gyntaf ac yn bennaf y bobl a fydd yn byw yno a sut y maent yn byw eu bywydau.

Bydd Polisi Cynllunio newydd Cymru, a fydd yn sail i bob penderfyniad cynllunio yn y dyfodol, yn rhoi pobl a lleoedd yng nghanol y system gynllunio yng Nghymru, a bydd yn sicrhau bod datblygiadau sy'n cael eu hadeiladu heddiw yn gadael gwaddol o leoedd cynaliadwy sydd wedi'u cynllunio'n dda fydd yn gwella llesiant pawb.

Mae pwyslais cryf ar ‘greu lleoedd’ o fewn y polisi newydd – sef dull o ddatblygu sy'n sicrhau bod gan gymunedau yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnynt o fewn cyrraedd a bod datblygiadau yn rhai o'r radd flaenaf.  Cymru fydd yr unig wlad o fewn y DU a fydd yn mabwysiadu'r dull hwn o gynllunio.

Ymysg y newidiadau eraill allweddol i bolisi Cynllunio Cymru sy'n ceisio helpu Cymru i leihau ei hallyriadau carbon a hefyd greu lleoedd y gall pobl fyw bywydau da ynddynt mae:

  • Hyrwyddo Teithio Llesol (cerdded a beicio) er mwyn creu lleoedd da a chefnogi iechyd a llesiant. Bydd angen i wasanaethau fod o fewn cyrraedd hawdd drwy ddulliau teithio llesol ac mae hierarchaeth drafnidiaeth newydd yn cael ei chyflwyno y bydd gofyn i gynllunwyr ei hystyried.
  • Polisi newydd ar Gerbydau Allyriadau Isel Iawn  (ULEVs) sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i ddatblygiadau newydd nad ydynt yn rhai preswyl i fod â phwyntiau gwefru mewn o leiaf 10% o'r mannau parcio.  Dyma'r polisi cenedlaethol cyntaf o'i fath yn y DU; 
  • Hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy (gwynt, solar a mathau eraill o ynni adnewyddadwy). Bydd gofyn i awdurdodau cynllunio ddiffinio ardaloedd lle y bydd datblygiadau gwynt a solar yn cael eu caniatáu a hefyd bennu targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy;
  • Cyfyngu ar echdynnu tanwyddau ffosil a'r defnydd ohonynt (yn cynnwys ffracio) trwy eu gosod ar waelod yr hierarchaeth ynni. Mae'n nodi na ddylai cynigion ar gyfer datblygiadau glo brig neu byllau glo dwfn gael eu caniatáu a dylid osgoi olew a nwy (gan gynnwys ffracio). Bydd Cyfarwyddyd Hysbysu newydd yn cael ei gyflwyno a fydd yn nodi bod yn rhaid hysbysu Llywodraeth Cymru ynghylch unrhyw geisiadau cynllunio y mae awdurdodau cynllunio lleol yn bwriadu eu cymeradwyo ar gyfer datblygiadau glo a phetroliwm newydd;
  • Mae egwyddor cyfrwng y newid wedi'i gynnwys mewn polisi cynllunio cenedlaethol sy'n golygu mai'r person neu'r busnes sy'n gyfrifol am gyflwyno newid fydd yn gyfrifol am reoli'r newid hwnnw. Er enghraifft, bydd datblygwr sy'n adeiladu cartrefi newydd ger canolfan gerddoriaeth bresennol yn gyfrifol am sicrhau bod camau lliniaru priodol yn cael eu cymryd fel na fydd cwynion yn y dyfodol gan y trigolion newydd ynghylch y sŵn y mae'r ganolfan yn ei chreu. Hon yw'r ddogfen bolisi gyntaf yn y DU i gyflwyno'r cysyniad o seinweddau o safbwynt diogelu'r amgylchedd acwstig.
  • Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cyfeirio'n helaeth at Ddeddf arloesol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried datblygu cynaliadwy wrth wneud penderfyniadau. Bu cydweithio agos â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, wrth i'r polisi newydd gael ei ddatblygu.

Yn gynharach yr wythnos hon ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â'r Tramshed yn Grangetown, Caerdydd sy'n enghraifft dda o ganolfan aml-ddefnydd y mae Polisi Cynllunio Cymru yn ceisio eu hannog.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Mae'n hollbwysig sicrhau bod gan ddatblygiadau sy'n cael eu hadeiladu heddiw, ac a fydd yn sefyll am flynyddoedd lawer, waddol o leoedd cynaliadwy sydd wedi'u dylunio'n dda. Y nod yw gwella bywydau pawb. 

"Mae'n fersiwn newydd o Bolisi Cynllunio Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod effaith datblygiadau yn y dyfodol yn parhau am gyfnod hir a'u bod yn cyfoethogi bywydau pobl. 

"Hoffwn sicrhau mai ystyriaeth gyntaf cynllunwyr a datblygwyr wrth iddynt lunio eu cynlluniau yw'r bobl a fydd yn byw yno a sut fath o fywydau fydd ganddynt. Nid yw hyn yn digwydd bob amser ar hyn o bryd. Golyga hyn ystyried anghenion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol a hefyd anghenion economaidd, gan gynnwys effaith datblygiadau newydd ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol. 

"Bydd Polisi Cynllunio newydd Cymru yn sicrhau bod gennym leoedd sydd wedi'u dylunio'n dda a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol."