Hysbysiad preifatrwydd ynghylch lleoliadau tomenni glo yng Nghymru.
Cynnwys
Cefndir
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu set ddata geo-ofodol genedlaethol o domenni glo segur yng Nghymru. Casglwyd y data o gofnodion partneriaid, megis awdurdodau lleol a’r Awdurdod Glo. Nodwyd tomenni ychwanegol drwy ddefnyddio ffynonellau data sydd ar gael yn agored megis mapiau hanesyddol a data tir LiDAR. Mae’r data yn cynnwys ffiniau'r tomenni, eu categori a phwy sy’n berchen arnynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn Rheolydd ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir at y diben hwn.
Beth yw’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu?
Caiff eich data personol eu prosesu fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Y sail statudol ar gyfer prosesu'r data yw cyfuniad o bwerau – adran 141 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar y cyd ag adrannau 11 a 12 o Ddeddf Mwynfeydd a Chwareli (Tomenni) 1969; ac adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Pa wybodaeth bersonol sydd angen i ni ei phrosesu?
Byddwn yn casglu lleoliadau'r holl domenni glo segur yng Nghymru sy'n cynnwys ffiniau ardaloedd y tomenni. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i bartneriaid, er enghraifft, awdurdodau lleol, sicrhau ansawdd y data a chyflawni camau allweddol y rhaglen waith ar gyfer gwneud tomenni glo yn ddiogel, fel archwiliadau, gwaith cynnal a chadw a threialon technoleg.
Byddwn hefyd yn prosesu'r wybodaeth am berchnogaeth tir pob tomen gan ddefnyddio cofnodion Cofrestrfa Tir EF. Byddwn yn defnyddio'r data personol i ddatblygu polisi a deddfwriaeth ar domenni glo segur; fel bod sefydliadau partner neu gontractwyr yn gallu sgrifennu atoch am gael mynd ar y tir i gynnal archwiliadau; ac i lunio cofrestr o asedau er mwyn gallu parhau i reoli a chynnal a chadw tomenni glo segur.
Er mwyn gweld beth yw hyd a lled y tomenni glo segur, efallai y bydd gofyn i ni brosesu gwybodaeth bersonol am rai berchenogion tir y gwelwn yn y pendraw nad oes ganddynt domenni ar eu tir.
Pam mae angen i ni brosesu eich data personol?
Bydd y set ddata geo-ofodol genedlaethol o domenni glo segur yng Nghymru yn allweddol bwysig i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn rheoli tomenni glo segur yng Nghymru. Bydd yr un mor berthnasol yn y dyfodol ag y mae ar hyn o bryd. O ran hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r wybodaeth hon cyhyd ag y bo'n angenrheidiol. Bydd yr wybodaeth sy’n cael ei chadw yn cael ei hadolygu mewn 20 mlynedd, yn unol â'n polisi cadw data a'n hymrwymiadau cyfreithiol, er mwyn sicrhau ei fod yn dal i fod yn ofynnol.
A fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu?
Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol â’r Awdurdod Glo. Gallai gysylltu â chi ynghylch cael mynd ar eich tir i archwilio tomen.
Caiff gwybodaeth am ffiniau tomenni eu rhannu â:
- awdurdodau lleol sydd â thomenni glo o fewn eu ffiniau, a'r Awdurdod Glo er mwyn eu helpu i reoli a deall tomenni
- contractwyr ac ymgynghorwyr sy’n gweithio ar ran y cyrff hyn neu Lywodraeth Cymru – er mwyn eu helpu i reoli a deall Tomenni
- fforymau cydnerthedd lleol – i alluogi gweithgareddau paratoi pan ystyrir bod hynny’n briodol
- detholiad o drydydd partïon – i helpu i ymchwilio i domenni glo segur a chynnal treialon technoleg.
Caiff gwybodaeth am leoliadau tomenni glo nas defnyddir a’u categori eu cyhoeddi gan ddod yn y pendraw’n rhan bwysig o’r ffordd y caiff tomenni glo eu rheoli yng Nghymru. Bydd lleoliadau tomenni glo nas defnyddir a’u categori yn parhau i esblygu wrth i ni ddod i ddeall pob tomen yn well.
Eich hawliau
O dan GDPR y DU mae gennych yr hawliau canlynol:
- yr hawl i weld copi o’ch data personol;
- yr hawl i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hyn;
- yr hawl i wrthwynebu (o dan amgylchiadau penodol) prosesu’ch data neu gyfyngu ar eu prosesu;
- yr hawl i ofyn (o dan amgylchiadau penodol) inni ddileu’ch data;
- yr hawl i gofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.
Os oes gennych ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu’r rhaglen diogelwch tomenni glo, cysylltwch â:
E-bost: TomenniGlo@llyw.cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ,
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru