Neidio i'r prif gynnwy

Bydd mesurau a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 12 Rhagfyr) yn cryfhau lles anifeiliaid yng Nghymru, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y dedfrydau mwyaf posib am greulondeb i anifeiliaid yn cynyddu i bum mlynedd yng Nghymru ac mae’r Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghylch cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer Cymru a Lloegr.     

Ar hyn o bryd, y ddedfryd fwyaf posib yng Nghymru a Lloegr am drosedd o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 yw chwe mis, yn ogystal â dirwy heb gyfyngiad a gwaharddiad. 

Bydd swyddogion o Gymru a Lloegr yn cydweithio yn awr ar gyflwyno’r Bil. Heddiw cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil drafft ar gyfer ei ystyried gan y Pwyllgor Dethol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae’n bwriadu cyflwyno’r Bil cyn gynted ag y mae amser Seneddol yn caniatáu hynny.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Rydyn ni wastad wedi bod yn glir bod y ffordd rydyn ni’n trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o werthoedd ein cymdeithas ni. Dylid gwarchod anifeiliaid rhag poen, anaf, ofn a gofid a dylai’r rhai sy’n cyflawni’r troseddau creulondeb anifeiliaid gwaethaf wynebu cosbau llym.                  

“Dyma pam rydw i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch cyflwyno  deddfwriaeth ar gyfer Cymru a Lloegr. Bydd cynyddu’r ddedfryd i garchar o bum mlynedd yn cynnal trefn ddedfrydu gymharol ledled Cymru a Lloegr a bydd yn sicrhau eglurder i asiantaethau gorfodi, y Llysoedd a’r cyhoedd fel ei gilydd.         

“Bydd hefyd yn dod â’r dedfrydau mwyaf posib am greulondeb anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr yn unol â chynlluniau Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn y maes pwysig hwn.”                                    

Mae’r Bil drafft a gyhoeddwyd heddiw’n datgan bod rhaid i’r llywodraeth “roi ystyriaeth i anghenion lles anifeiliaid fel bodau ymdeimladol wrth ffurfio a gweithredu polisi’r llywodraeth”.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Mae ein barn ni am ymdeimlad wedi bod yn glir iawn. Rydyn ni’n cytuno’n llwyr bod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol ac fe fyddwn ni’n parhau i hybu a gwella lles anifeiliaid, nawr ac ar ôl i ni adael yr UE.        

“Roedd y ffaith nad oedd ymdeimlad yn rhan o unrhyw Fil yn y DU yn bryder i ni a’n rhanddeiliaid, yn enwedig Cymdeithas Filfeddygol Prydain. Felly bydd cynnwys yr elfen sensitif yma ym Mil y DU yn rhoi hyder ac yn normaleiddio hyn.

“Byddaf yn cyfarfod yr Ysgrifennydd Gwladol yn nes ymlaen yr wythnos yma ac rydw i’n falch ei fod yn awr yn cefnogi ei negeseuon am bwysigrwydd lles anifeiliaid ac ymdeimlad anifeiliaid gyda gweithredu. Rydw i’n edrych ymlaen at y trafodaethau hyn.”