Neidio i'r prif gynnwy

Yn ogystal â chanfyddiadau o'r cwestiynau llesiant eu hunain, mae'r bwletin hefyd yn edrych ar gysylltiad llesiant â phynciau eraill sy'n cael sylw yn yr arolwg ar gyfer Mawrth 2013 i Ebrill 2015.

Prif bwyntiau

  • Roedd 45% o fenywod yn cofnodi lefelau uchel o deimlo bod pethau sy'n cael eu gwneud mewn bywyd werth chweil, o gymharu â 40% o ddynion. (Seiliedig ar arolwg 2014-15)
  • Roedd aelwydydd dau oedolyn yn hapusach na phobl sy'n byw wrth eu hunain, gyda'r pensiynwyr priod yn cofnodi'r lefel uchaf o hapusrwydd ar gyfartaledd, sef 8.1 (ar raddfa rhwng 0 a 10). (2014-15) Ffeithlun: 2014-15 Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • Roedd 74% o ddynion a 46% o fenywod yn teimlo'n ddiogel iawn yn cerdded wrth eu hunain ar ôl iddi dywyllu mewn ardaloedd gwledig o gymharu â 51% o ddynion a 21% o fenywod sy'n teimlo'n ddiogel iawn yn cerdded wrth eu hunain ar ôl iddi dywyllu mewn ardaloedd trefol. (2014-15)
  • Roedd pobl oedd yn teimlo'n dawel ac yn heddychlon drwy'r amser â lefel sylweddol uwch o ymddiriedaeth mewn pobl eraill o gymharu â'r rhai oedd yn teimlo'n isel ac yn ddigalon drwy'r amser. Sgôr cyfartalog o 7.4 o gymharu â 4.8 (ar raddfa rhwng 0 a 10). (2013-14)
  • Roedd 66% o'r rhai oedd yn fodlon iawn â'u swydd bresennol hefyd yn fodlon iawn â'u hamser cymudo. Mae hyn o gymharu â 41% o bobl oedd â boddhad isel â'u swydd bresennol ac oedd hefyd â boddhad isel â'u hamser cymudo. (2013-14)

Adroddiadau

Lles (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Mawrth 2013 i Ebrill 2015 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.